Ewch i’r prif gynnwys

O ran y plentyn ysgol cyffredin, gall ffiseg gael ei ystyried, yn aml, yn bwnc diflas, anodd, ac yn bwnc ar gyfer bechgyn yn unig.

Er bod gan gyflogwyr barch mawr at y sawl sydd wedi astudio’r pwnc, ac er bod y pwnc yn lwybr at ystod o yrfaoedd anhygoel, mae disgyblion yn llai tebygol o astudio ffiseg ar gyfer safon Uwch o gymharu â phynciau gwyddoniaeth eraill.

At hynny, dim ond 20 y cant o’r myfyrwyr sy'n dewis ffiseg Safon Uwch sy'n ferched, o gymharu â 50 y cant ar gyfer cemeg a 55 y cant ar gyfer bioleg.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod merched, pan fyddant yn dewis astudio ffiseg, yn tueddu i ennill gwell graddau na bechgyn yn y pwnc.

“Mae gormod o bobl ifanc, yn enwedig merched, yn colli’r cyfle i astudio ffiseg oherwydd eu bod yn teimlo nad yw’r pwnc ar eu cyfer nhw,”  meddai'r Athro Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y brifysgol.

“Gall y dewisiadau a wnânt gael eu dylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau, rhagfarnau a stereoteipiau, sy'n aml yn cael eu hatgyfnerthu gan y bobl o'u cwmpas.

“Mae dod o hyd i ffordd o herio'r stereoteipiau hyn a chwalu rhwystrau drwy ddangos i blant bod ffiseg yn bwnc anhygoel, ac yn hwyl, yn hynod bwysig.”

Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Athro Gomez a thîm allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi bod yn cynnal rhaglen helaeth o weithgareddau allgymorth dros y 10 mlynedd diwethaf i helpu i egluro'r pwnc a thrawsnewid y ffordd mae pobl yn ei weld.

O labordai i ystafelloedd dosbarth

Mae ymchwilwyr o'r brifysgol wedi bod yn rhan o rai o ddarganfyddiadau mwyaf arloesol maes seryddiaeth y blynyddoedd diweddar, o gynnig safbwyntiau digynsail ynghylch y Bydysawd, i astudio ffiseg y Glec Fawr.

Maent wedi cynnig ffyrdd newydd o ddeall sut y bu i’r sêr a’r galaethau gael eu ffurfio, a sut y maent wedi esblygu, wedi olrhain llwch cosmig yn ôl i'r Bydysawd cynnar iawn, ac wedi arwain y gwaith o ddatblygu teclynnau hanfodol sydd bellach yn cael eu defnyddio ar ddau o'r telesgopau mwyaf enwog erioed, Herschel a Planck.

A'r ystod eang hon o arbenigedd a phrofiad sydd wedi bod yn sail i'r gweithgareddau allgymorth y mae'r tîm wedi'u datblygu.

“Rydym yn hynod ffodus yma yn y brifysgol o gael nifer o grwpiau ymchwil sydd ar flaen y gad yn eu meysydd,”  ychwanega’r Athro Gomez.

“Mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa wych i gyfleu eu profiadau i gynulleidfaoedd ac i ddatblygu gweithgareddau, cyfleoedd rhyngweithio ac arddangosion sy'n seiliedig ar ddata gwirioneddol.”

Ymhlith y gweithgareddau y maent wedi helpu i'w datblygu mae 'Chromoscope', teclyn rhyngweithiol sy’n ein galluogi i weld yr awyr ar wahanol donfeddi, sy'n cynnwys data a gymerwyd o delesgop Herschel, a 'Messier Bingo' sef gêm ryngweithiol sydd wedi’i chreu i ganfod ac arddangos gwrthrychau y bu i rwydwaith Arsyllfa Las Cumbres, eu dal mewn lluniau.

Y Bydysawd yn y Dosbarth

Cafodd y gweithgareddau hyn eu hintegreiddio i'r prosiect Y Bydysawd yn yr Ystafell Ddosbarth (UitC) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y prosiect yn targedu ysgolion a oedd yn llai tebygol o ymwneud ag addysg wyddonol, yn benodol, athrawon mewn ardaloedd gwledig, gyda mwy o fyfyrwyr mewn tlodi, a chyrhaeddiad addysgol is.

Yn 2014 a 2015, hyfforddodd prosiect UitC 131 o athrawon ar draws 99 o ysgolion cynradd Cymru, gyda 97 y cant o athrawon yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus wrth addysgu gwyddoniaeth ar ôl yr hyfforddiant, a 94 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio adnoddau’r Brifysgol yn eu darpariaeth addysgu o fewn chwe wythnos i'w derbyn.

Drwy’r prosiect UitC hyfforddwyd hefyd 34 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i fod yn Fodelau Rôl Disglair (SÊR) ac roedd traean ohonynt yn fenywod. Cyflwynodd y myfyrwyr hyn 21 o weithdai mewn ysgolion difreintiedig ac anghysbell ledled Cymru, gan ymgysylltu â 871 o ddisgyblion cynradd.

“Nod Y Bydysawd yn y Dosbarth oedd darparu gwell dulliau addysgu ac adnoddau arloesol i foderneiddio a gwella'r ffordd y caiff pynciau STEM eu haddysgu i blant ifanc,” esbonia'r Athro Gomez.

“Mae cyflwyno modelau rôl cadarnhaol i blant yn hanfodol wrth eu hennyn i ymwneud â’r pwnc. Dyma’r hyn y gwnaethon ni’i ganfod yn ystod y prosiect hwn: wrth ofyn i fyfyrwyr dynnu llun gwyddonydd 'nodweddiadol', yn dilyn gweithdai a gynhaliwyd gan SÊR benywaidd, roedd disgyblion gwrywaidd a benywaidd yn fwy tebygol o dynnu llun gwyddonydd benywaidd.

“Profodd hyn i ni fod ffyrdd o feddwl yn cael eu creu gan brofiadau, ac felly bod cael rhagor o ffisegwyr benywaidd yn addysgu plant, yn rhywbeth a allai greu newid go iawn.”

Newid y cwricwlwm

Mae effaith ein gweithgareddau allgymorth wedi mynd gam ymhellach drwy wirioneddol newid, y ffordd y caiff ffiseg ei addysgu mewn ystafelloedd dosbarth ledled y wlad.

Yn 2014 bu i CBAC, gan gynnwys eu his-fwrdd arholi Eduqas, a ddefnyddir ledled Prydain Fawr, ymgynghori â'r Brifysgol wrth adolygu eu cwricwlwm Ffiseg UG a Safon Uwch.

A hwythau wedi gweld budd ein cyfres eang o adnoddau addysgol sydd ar gael yn rhwydd, sydd yn ymwneud â seryddiaeth aml-donfedd, adolygodd CBAC eu cwricwlwm UG a Safon Uwch i gynnwys y pwnc hwn.

Rhwng 2016 a 2019 roedd 11,724 o ymgeiswyr arholiadau ar draws Prydain Fawr wedi’u haddysgu ynghylch seryddiaeth aml-donfedd o fewn y cwricwlwm UG a Safon Uwch newydd; cefnogwyd hyn drwy gyfrwng Canllaw Athrawon oedd yn cynghori athrawon ar sut i ddefnyddio adnoddau'r brifysgol, megis Chromoscope.

Ers 2014, mae ein hymchwilwyr hefyd wedi defnyddio’r adnoddau seryddiaeth hyn i hyfforddi dros 1,600 o athrawon a myfyrwyr TAR, mewn dros 30 o ddigwyddiadau ledled y DU.

Pennawd ar gyfer y llun: Yr Athro Gomez yn trafod ymagwedd y brifysgol at arloesedd ac ymchwil a sut mae hyn wedi bod yn allweddol o ran gwthio ffiniau technoleg.

alt text
Mae'r Athro Gomez yn siarad am ddull y brifysgol o arloesi ac ymchwil a sut mae ef wedi bod yn allweddol i wthio ffiniau technoleg.

Digwydd ar hap

Yn ôl yr Athro Gomez, yr allwedd i ennyn diddordeb plant mewn ffiseg cyn gynted â phosibl yw, eu haddysgu mewn cyd-destun a chanddo adnoddau sy’n hwyl i’w defnyddio, sy’n herio ac yn rhyngweithiol, yng nghwmni athrawon a modelau rôl sy'n angerddol am y pwnc.

Pan fo’r elfennau hyn mewn lle, mae'r siawns o danio diddordeb yn y pwnc yn llawer mwy tebygol.

“Mae'n syndod o ble y gall y sbarc hwn ddod weithiau,” meddai'r Athro Gomez. “Yn ystod fy arholiadau Safon Uwch, athro mathemateg roddodd lyfr i mi am seryddiaeth a dweud y gwir, a dwi'n cofio darllen popeth am dyllau du a meddwl i fi fy hun, does gen i ddim syniad beth yw twll du, ond mae'n swnio'n eithaf cŵl.

“Felly, fe ddarllenais i’r llyfr yma oedd yn esbonio sut mae gan wyddonwyr stori y tu ôl i'r hyn maen nhw'n ei wneud, a phenderfynu ei fod yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud fy hun. Doedd hi ddim yn hir cyn i mi syrthio mewn cariad â'r pwnc yn llwyr.”

Aeth ymlaen i astudio gradd ffiseg israddedig yn y brifysgol, ac ers hynny dyw’r Athro Gomez heb edrych nôl. Mae hi bellach yn arbenigwr sy'n arwain y byd ar lwch sêr – y mater hwnnw sy’n sylfaen i fywyd – a'r prosesau sy'n pennu ble, pryd a sut y mae'n cael ei ffurfio.

Mae hi'n angerddol iawn dros gyfuno ei hymchwil â'i gweithgareddau allgymorth, ac felly pan greodd tîm rhyngwladol yr oedd yr Athro Gomez yn rhan ohono, y ddelwedd 3D gyntaf erioed o weddillion uwchnofa – un o brif ffynonellau llwch cosmig – roedd gweithio gyda Sefydliad Smithsonian yn UDA i greu arddangosfa 3D ar-lein, rhyngweithiol o'r uwchnofa yn seiliedig ar yr ymchwil, yn rhywbeth oedd yn ffitio i’r dim.

Adroddodd Sefydliad Smithsonian fod y model 3D wedi'i arddangos i Seneddwyr a'i ddefnyddio ledled America gan gynnwys mewn ysgolion a llyfrgelloedd, mewn rhaglenni allgymorth STEM i ferched, ac mewn arddangosion ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg.

I'r Athro Gomez, a enillodd MBE yn 2018 am rannu ei hymchwil â chynulleidfaoedd eang, mae ei stori'n enghraifft wych o sut y gall eiliad o ysbrydoliaeth arwain at, benderfyniad sy'n newid bywyd, a'r cyfle i ysbrydoli eraill.

“Yn ystod fy ngradd israddedig, bu i’r Athro anhygoel oedd yn goruchwylio fy ngwaith ddweud - ac rwy’n cofio hyn yn glir 'llwch sêr ydyn ni bob un'. Fe wnaeth hynny wirioneddol aros yn fy nghof, gan fy sbarduno i fod eisiau gwybod rhagor am y pwnc,”  meddai.

“Rydw i’n cofio meddwl bod y syniad fod - seren wedi ffrwydro yn sail i’n bodolaeth ni yma ar y Ddaear - yn un mor farddonol. Heb yr un eiliad honno, mae’n bosib na fyddwn i yma heddiw yn helpu i, chwalu mythau ffiseg, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o seryddwyr.”

Professor Haley Gomez with a satellite dish in the background
Mae'r Athro Gomez yn arbenigwr sy'n arwain y byd ar lwch sêr – blociau adeiladu bywyd – a'r prosesau sy'n pennu ble, pryd a sut mae'n ffurfio.

Cyhoeddiadau

Partneriaid