Ewch i’r prif gynnwys

Effeithiolrwydd cadachau gwrthficrobaidd

Nododd papur diweddar yn y Lancet fod 1.27 miliwn o bobl wedi marw ledled y byd oherwydd heintiau ag ymwrthedd i ddeunyddiau gwrthficrobaidd yn 2019. Mae atal yr heintiau hyn yn bwysicach nag erioed, ac mae arwynebau glân mewn lleoliadau gofal iechyd yn rhan allweddol o'r ateb.

Defnyddir cadachau gwrthficrobaidd i ddadheintio arwynebau mewn gofal iechyd i leihau'r risg y bydd cleifion yn cael heintiau. Nid oedd llawer yn hysbys am effeithiolrwydd y cynhyrchion gwrth-bacteriol hyn, a pha rai oedd y rhai mwyaf effeithiol wrth ddinistrio pathogenau bacteriol. Hefyd, nid oedd unrhyw dystiolaeth ynghylch sut y dylid defnyddio cadachau mewn lleoliadau clinigol i reoli heintiau yn effeithiol.

Yn 2006, cysylltodd Llywodraeth Cymru â'r Athro Maillard, oherwydd ei arbenigedd ymchwil helaeth ar fioleiddiaid gwrthficrobaidd ac ymwrthedd microbaidd, i ymchwilio i effeithiolrwydd cadachau gwrthficrobaidd ar gyfer rheoli heintiau mewn unedau gofal dwys yng Nghymru. Arweiniodd hyn at ddatblygu protocol prawf cynhwysfawr sy’n mesur effeithiolrwydd a risg sy'n gysylltiedig â chynhyrchion sy'n seiliedig ar gadachau (wipes).

Aeth yr Athro Maillard ymlaen i asesu pa mor effeithiol oedd cadachau sborileiddiol a oedd ar gael yn fasnachol wrth dynnu sborau Clostridioides difficile (C diff) o arwyneb difywyd. Gwerthusodd ystod o ffactorau, gan gynnwys natur a chrynodiad y bioleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y cadach, deunydd y cadach ei hun, natur yr arwynebau yr oedd angen eu dadheintio, y pathogenau targed, a'r ffordd yr oedd y cadach yn cael ei ddefnyddio gan staff gofal iechyd a glanhau.

Darganfu fod llawer o'r cadachau gwrthficrobaidd sy'n cael eu defnyddio i leihau lledaeniad bacteria mewn ysbytai yn aneffeithiol ac y gallent gyfrannu'n anfwriadol at ledaenu bacteria pathogenig a allai fod yn angheuol.

Canfu'r gwaith hefyd nad oes sail ymarferol i honiadau gwneuthurwyr cadachau ynghylch effeithiolrwydd gwrthficrobaidd eu cadachau.

“Pan ddechreuais edrych ar y cynhyrchion sy'n cael eu defnyddio, darganfyddais nad oedd yr honiadau am weithgarwch gwrthficrobaidd ar gyfer rhai cynhyrchion yn dda ac nad oedd modd eu profi,” eglura'r Athro Maillard.

Canfu hefyd nad oedd unrhyw brotocol profi effeithiol yn bodoli ar gyfer y cynhyrchion hyn a bod angen 'gweithdrefn profi cadachau bioleiddiol' digon cadarn a safonol.

Datblygu protocol newydd

Bu'r Athro Maillard yn gweithio gyda dyfeiswyr dyfais profi tecstilau o'r enw Wiperator® a weithgynhyrchir yng Nghanada. Yn flaenorol, dim ond y deunydd a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu cadachau y gallai'r Wiperator® ei brofi. Gan ddefnyddio ymchwil yr Athro Maillard, gwnaed newidiadau i'r ddyfais fel y gallai asesu effeithiolrwydd cadachau gyda gwahanol fformwleiddiadau bioleiddiol a phan gweithredwyd amodau defnyddio bywyd go iawn (er enghraifft grym cymhwysol, cyflymder rhwbio a hyd y glanhau).

Defnyddiodd yr Athro Maillard a'i grŵp ymchwil y Wiperator® wedi'i addasu i ddatblygu protocol safonol newydd ar gyfer profi a defnyddio cadachau gwrthficrobaidd yn glinigol.

“Fe wnaethom ddatblygu dull yn y labordy a oedd yn seiliedig ar dair rhan, sef effeithiolrwydd gwirioneddol y cadach ei hun i gael gwared ar ficro-organebau ar arwynebau, effeithiolrwydd y cadach i ladd micro-organebau yn y cadachau, ac effeithiolrwydd y cadachau i atal trosglwyddo micro-organebau rhwng arwynebau,” esbonia’r Athro Maillard.

Canfu'r ymchwil, hyd yn oed pan brofir bod cadach yn cael gwared ar facteria, rhaid ei ddefnyddio mewn ffordd benodol i fod yn effeithiol wrth leihau lledaeniad bacteria.

“Mae'n bwysig bod y cadachau yn tynnu pethau o'r wyneb, ond mae'r un mor bwysig nad ydyn nhw'n trosglwyddo micro-organebau ar draws arwynebau. Fe wnaethon ni feddwl am ffordd o wneud hyn - un cadach, a ddefnyddir ar un arwyneb ac i un cyfeiriad” ychwanegodd yr Athro Maillard.

Mae defnyddio'r weipar fel hyn yn ei atal rhag lledaenu bacteria o un arwyneb i'r llall neu o un ardal i'r llall pan gaiff ei ddefnyddio ar nifer o arwynebau neu i sawl cyfeiriad.

Gan ddefnyddio'r protocol newydd hwn, roedd yr Athro Maillard yn gallu dangos yn glir pa gynhyrchion oedd yn effeithiol a sut y dylid eu defnyddio'n ddiogel i leihau lledaeniad bacteria pathogenig a allai fod yn angheuol.

Roedd y protocol a ddatblygodd yr Athro Maillard yn sail i Safon Ryngwladol newydd Cymdeithas America ar gyfer Profi a Deunyddiau (ASTM) ar gyfer profi a defnyddio cadachau gwrthficrobaidd. (Mae ASTM yn sefydliad rhyngwladol sy'n datblygu ac yn cyhoeddi safonau technegol ar gyfer deunyddiau, cynhyrchion, systemau a gwasanaethau).

alt text
Gwyliwch ein fideo am y prosiect cadachau gwrthficrobaidd clinigol.

Partneriaeth â GAMA Healthcare Ltd

Defnyddiwyd datblygiad y protocol hwn i sefydlu gweithgarwch sborileiddiol nifer o gynhyrchion sydd ar gael yn fasnachol sy'n hawlio gweithgarwch yn erbyn Clostridioides difficile. Nododd yr Athro Maillard fod un cynnyrch yn rhagori ar y rhai gan gystadleuwyr. Y cynnyrch hwn oedd cadach Clinell Sborileiddiol GAMA Healthcare.

Darparodd y treialon clinigol a gynhaliodd y brifysgol - y cyntaf o'u math, y prawf clinigol sydd ei angen ar gwsmeriaid a rheoleiddwyr gofal iechyd bod cadachau GAMA yn effeithiol yn erbyn C diff - gan ladd 99.9999% o sborau mewn dim ond un munud.

“Roedd yn hollol glir pan wnaethon ni gymharu eu cynnyrch â'r lleill, bod eu cynnyrch yn llawer gwell. A dyna oedd y man cychwyn iddyn nhw allu gwneud honiad cryf yn seiliedig ar gyhoeddi ein papur.” Dywed yr Athro Maillard.

Arweiniodd hyn at gydweithrediad hirdymor rhwng y brifysgol a GAMA Healthcare Ltd, a gefnogwyd gan bedair Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a ariennir gan Innovate UK. Helpodd y cydweithio hwn a throsglwyddo gwybodaeth y cwmni i sefydlu a chynnal treialon clinigol, hyfforddi staff ar draws sawl adran, datblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion a gosod y sylfaen ar gyfer gallu ymchwil a datblygu mewnol.

Mae Innovate UK wedi canmol y bartneriaeth i’r cymylau drwy sgorio’r prosiect fel un ‘rhagorol’. Cafodd ei gyflawniadau eu cydnabod hefyd yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2015, gan ennill y Wobr Arloesedd Busnes, ynghyd â 'Dewis y Bobl', gwobr y pleidleisiwyd amdani gan y cyhoedd. Enillodd hefyd Wobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider's (Cymru) 2015 yn y categori Ymchwil a Datblygu.

Mae GAMA Healthcare Ltd bellach yn arwain marchnad y DU yn y diwydiant cynhyrchion cadachau gwlyb gwrthficrobaidd. Maent yn un o'r cyflenwyr mwyaf o gadachau gwlyb i'r GIG yn y Deyrnas Unedig ac maent yn allforio cynhyrchion ledled y byd.

“Mae rhyngweithio â diwydiant yn hollbwysig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio ymchwil 'yn y byd go iawn' a chreu arloesedd llawn effaith yma. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y cynnyrch a ddefnyddir fel rhan o weithdrefn rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd yn gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i reoli heintiau pathogenau trafferthus,” dywed yr Athro Maillard.

Wrth i gynhyrchion newydd gael eu datblygu, a fformwleiddiadau wella, mae'r Athro Maillard yn parhau i helpu i lunio a datblygu cynhyrchion ac i ddatblygu protocolau sy'n efelychu defnyddio cynhyrchion yn ymarferol; gan ddefnyddio ei arbenigedd i gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i leihau heintiau a geir drwy ofal iechyd.

Pobl

Yr Athro Jean-Yves Maillard

Yr Athro Jean-Yves Maillard

Professor of Pharmaceutical Microbiology

Email
maillardj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9088