Ewch i’r prif gynnwys

“Mae’r ymchwil mwyaf pwerus yn deillio o greu methodolegau sy'n gallu gwrando ar brofiadau bywyd plant a phobl ifanc a dysgu ohonynt.”

Mae’r Athro EJ Renold yn arbenigwr blaenllaw ym maes astudiaethau rhywedd a rhywioldeb mewn plentyndod ac ieuenctid. Mae eu hymchwil a’u hymgysylltiad wedi bod yn sail i’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd yng Nghymru, a fydd yn statudol ar gyfer disgyblion tair i 16 oed. Mae’r adnodd ACRh, AGENDA, sy’n seiliedig ar waith helaeth ar ymgysylltu a gweithredu helaeth gyda phobl ifanc, wedi cael ei gydnabod a’i ddefnyddio’n rhyngwladol gan filoedd o bobl.

Nid oedd yr Athro Renold yn ystyried dilyn gyrfa academaidd o gwbl pan oedd yn fyfyriwr israddedig. Enillodd radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth o Brifysgol Caerdydd. Arweiniodd y ffaith eu bod yn mwynhau’r modiwlau Addysg yn eu blwyddyn gyntaf at newid ffocws.

“Roeddwn wastad wedi ymddiddori yn y celfyddydau mynegiannol a’r hyn y gall cyrff ei wneud,” esbonia’r Athro Renold. “Ro’n i’n dawnsio ballet ac yn gwneud gymnasteg ar lefel genedlaethol yn blentyn. Fe wnes i gymhwyso fel hyfforddwr gymnasteg yn 14 oed, a choreograffu dwsinau o ddawnsfeydd, sy’n cynnwys dewis a golygu traciau sain, felly roeddwn i’n dysgu’n gynnar iawn ar sut mae cyfuno symudiad a sain yn caniatáu i chi fynegi eich hun y tu hwnt i’r iaith lafar.

“Ro’n i hefyd yn herio ffiniau rhywedd yn blentyn – ro’n i’n eitha bach am fy oedran, ond yn hynod gryf a hyblyg! Yn blentyn, roeddwn i hefyd yn hapusach mewn trowsus na sgert – rwy’n cofio brwydro i newid polisi gwisg yr ysgol fel y gallai merched wisgo trowsus.

“Drwy wneud Lefel A mewn Astudiaethau Theatr, Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg, roeddwn yn gallu plethu fy niddordeb yn y celfyddydau mynegiannol ac mewn anghydraddoldebau rhywedd a rhywiol a’u datblygu.”

Bwriad yr Athro Renold ar y pryd oedd dod yn athro ysgol gynradd. Roedd eu traethawd hir yn y drydedd flwyddyn – a oedd yn canolbwyntio ar semioteg ryweddol mewn bocsys bwyd ysgol – yn drobwynt. Fe wnaeth y prosiect hwn wella eu dealltwriaeth o’r ffyrdd amrywiol yr oedd plant yn deall sut mae rhywedd yn cael ei gynrychioli’n ddiwylliannol.

“Dyma’r tro cyntaf i mi gynnal fy ymchwil ethnograffig fy hun i ddylanwad rhywedd ar fywydau plant ifanc. Roeddwn i’n dysgu’n gyflym cyn lleied o ymchwil ethnograffig oedd wedi’i gwneud ar ddiwylliannau rhywedd a rhywiol plant yn yr ysgol gynradd.”

Enillodd radd dosbarth cyntaf, ac ysgogodd hyn iddynt wneud PhD. Roedd astudiaeth yr Athro Renold ar rywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd plant ysgol gynradd wedi torri tir newydd.

“Fy PhD i oedd un o’r astudiaethau ethnograffig cyntaf yn y DU i ganolbwyntio ar yn yr ysgol ac i glywed gan blant sut roeddynt yn deall rhywedd a rhywioldeb yn eu cylchoedd eu hunain, a sut y gallai’r ysgol fod yn safle allweddol o ran atal, amddiffyn a newid.”

Fodd bynnag, nid bwriad yr Athro Renold oedd bod yn academydd, ac roedd y daith PhD yn frwydr.

“Roedd dechrau ar PhD mewn maes sy’n ddadleuol ac heb ddigon o ymchwil yn cael ei wneud iddo yn her. Fel llawer o PhDs, yn enwedig prosiectau ymchwil ethnograffig, cymerodd dipyn o amser i mi ei gwblhau. Fel rhywun a oedd yn fwy hyderus yn cyfathrebu â’m corff neu gyda cherddoriaeth na geiriau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd. Yn wir, roeddwn i mor swil, ac yn casáu siarad cyhoeddus gymaint, nes i mi adael ddwywaith yn ystod fy PhD, a bron ddim cyrraedd y viva! Fodd bynnag, ym 1999, fe lwyddais i heb unrhyw gywiriadau.”

Gofalwyr ifanc yn cyhwfan arteffactau sidan yn ystod Gorymdaith i gofio’r ymgyrch dros roi’r Bleidlais i Fenywod yng Nghaerdydd ar 10 Fehefin 2018. Mae ymchwil yr Athro Renold wedi canolbwyntio ar ddefnyddio creadigrwydd i ysgogi gweithgarwch mewn amrywiaeth o feysydd.

Pan wnaeth y cyfryngau gael panig ynghylch moesoldeb rhywioli cyn aeddfedrwydd, daeth pwysigrwydd ymchwil ac arbenigedd yr Athro Renold i’r amlwg. Fe wnaeth eu diddordeb ymchwil mewn gweithio’n greadigol a chydweithio i ddatblygu a chyfathrebu ffynnu.

“Fe wnes i benderfyniadau eithaf strategol i ddod â chydraddoldeb, hawliau plant, lles ac amddiffyn at ei gilydd i fynd i’r afael â ‘rhywioli’ – rhywbeth nad oedd wedi’i ystyried mewn gwirionedd o’r blaen wrth lunio polisïau am rywedd a lles rhywiol plant.

“Dechreuais hefyd guradu digwyddiadau, gan dynnu ar fy nghefndir mewn astudiaethau theatr – digwyddiadau a ddaeth â phlant ysgol, academyddion, gwleidyddion, llunwyr polisi ac athrawon i siarad â’i gilydd. A thros amser, dechreuais weithio mwy a mwy gydag artistiaid i greu dulliau a allai wrando’n well ar yr hyn sy’n bwysig i blant o ran pynciau sensitif a dysgu ohonynt.”

Dros nifer o flynyddoedd, arweiniodd yr ymchwil hon a’r gwaith gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid, asiantaethau trydydd sector, artistiaid a llunwyr polisi at ddatblygu adnodd i ymgyrchwyr sy’n seiliedig ar y celfyddydau, AGENDA – canllaw, wedi’i gyd-greu gyda phobl ifanc. Mae modd defnyddio’r adnodd i gefnogi pobl ifanc i ystyried ystod o bynciau gan gynnwys teimladau ac emosiynau, cyfeillgarwch a pherthnasoedd, delwedd y corff, rhoi cydsyniad, a chydraddoldeb a hawliau o ran rhywedd a rhywioldeb.

Digwyddodd un o uchafbwyntiau’r prosiect yn 2018 pan ymunodd yr Athro Renold â’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd i drafod sut mae Cymru’n hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.

Rhoddodd yr Athro Renold sylw i effaith yr adnodd AGENDA, ac yn arbennig pŵer dulliau creadigol i fynd i’r afael â phynciau sensitif. Un o’r rhai mwyaf nodedig yw’r sgert graffiti a wnaed o brennau mesur gan grŵp o ferched yn eu harddegau a oedd am dynnu sylw at natur hollbresennol aflonyddu rhywiol yn yr ysgol, ar-lein ac yn eu cymunedau.

Wedi’i sbarduno gan sylw dros ysgwydd am y ffordd mae rhai bechgyn yn defnyddio pren mesur i godi sgertiau merched, penderfynodd y grŵp godi ymwybyddiaeth o’r mater drwy wneud sgert allan o brennau mesur – pob un gyda negeseuon am gam-drin a negeseuon dros newid fel graffiti drostynt.

“Roedd y sgert pren mesur yn gatalydd go iawn wrth roi hwb i’r adnodd AGENDA. Dyma lle y dechreuais sylwi ar y pŵer emosiynol sydd gan wrthrychau ymchwil-actifydd a sut y gallant gario profiad i leoedd a gofod newydd i sicrhau newid ymhell ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Mae’r sgert hon wedi rhyngweithio â channoedd o bobl, o bob cefndir. Ac mae hefyd wedi sbarduno llawer mwy o weithredoedd sgert pren mesur ar amrywiaeth o bynciau, o gydraddoldeb rhywedd i ACRh sy’n cynnwys LGBTQ+.”

Arweiniodd y gwaith hwn hefyd at wahodd yr Athro Renold i gadeirio Panel Arbenigol y Cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd a sefydlwyd gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd. Ym mis Mai 2018, derbyniodd Williams holl argymhellion y Panel fel y nodir yn Adroddiadau’r Panel, gan gynnwys ailwampio cwricwlwm Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb (ACRh) Cymru yn sylweddol – adroddiadau sy’n cynnwys llawer o astudiaethau achos ymgysylltu ag ymchwil AGENDA.

Amlygodd y canfyddiadau’r bwlch sylweddol rhwng profiadau a phryderon bywyd plant a phobl ifanc a’r ACRh yr oeddent yn ei chael yn yr ysgol. Mae dulliau AGENDA yn cynnig y dulliau ymarferol sydd eu hangen ar ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wrando ar bobl ifanc a rhannu’r hyn sy’n bwysig mewn ffyrdd diogel a chreadigol. O’r flwyddyn nesaf, bydd Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb yn cael ei hymgorffori ym mhob maes dysgu ar draws cwricwlwm Cymru, o’r dyniaethau i wyddoniaeth a thechnoleg, a bydd yn statudol ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 16 oed. Fe’i cefnogir gan lwybrau dysgu proffesiynol clir ar gyfer athrawon, yn yr hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac o fewn y gweithlu presennol.

Caiff y cwricwlwm ei ategu gan yr egwyddorion craidd a nodir yn adroddiadau’r panel a’u mireinio yn y canllawiau statudol, sy’n nodi bod yn rhaid iddo gynnwys hawliau a thegwch; grymuso; cynwysoldeb LGBTQ+; amddiffyn; creadigrwydd; cyd-gynhyrchu. Mae hefyd yn amlinellu bod yn rhaid i ddysgu fod yn gyfannol; sy’n briodol i ddatblygiad plant ac yn berthnasol i’w profiadau bywyd.

Mae’r Athro Renold wedi parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm a’r canllawiau newydd fel cynghorydd ac ymgynghorydd parhaus i’r Gweithgor ACRh, a thrwy eu gwaith ar ddatblygiad proffesiynol parhaus gydag athrawon.

alt text
Enillodd yr Athro Renold wobr Effaith yn y Gymdeithas ESRC yn 2018. Yma, maent yn sôn am AGENDA a’i ddylanwad yng Nghymru.

Mae AGENDA yn parhau i ddatblygu ac ehangu. Mae’r gwaith wedi’i rannu â llunwyr polisïau o mor bell i ffwrdd â Gwlad yr Iâ, ac wedi’i addasu’n rhyngwladol yn Iwerddon, UDA, y Ffindir ac Awstralia.

Yng Nghymru, yn 2019, cafodd yr adnodd ei droi’n ganllaw ymarferol i addysgwyr sy’n gweithio gyda phlant rhwng saith a 18 oed. Mae sefydliadau allweddol Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r adnodd dwyieithog a’i roi ar waith. Mae’n cefnogi athrawon i ddatblygu sesiynau sy’n cynnig llefydd cadarnhaol i bobl ifanc allu lleisio eu barn am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw drwy ystod o fformatau, megis y celfyddydau gweledol, barddoniaeth, dawns a drama.

Fe wnaeth yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) hefyd ariannu’r gwaith o ddatblygu adnoddau ychwanegol i ymarferwyr ar gyfer ei 450,000 o aelodau ledled y DU.

“Mewn sawl ffordd, rwyf wedi dychwelyd at y creadigrwydd ar ddechrau fy nhaith academaidd – gan fanteisio ar bŵer y celfyddydau mynegiannol i gefnogi pobl ifanc i deimlo, meddwl, cwestiynu a rhannu materion sensitif neu anodd,” meddai’r Athro Renold.

“Mae defnyddio’r gweithgareddau creadigol yn adnodd AGENDA wedi bod yn hanfodol i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i blant wrth ddefnyddio technegau sy’n seiliedig ar y celfyddydau, fel y gellir rhannu materion personol mewn ffyrdd diogel a dienw.”

Yn 2021, derbyniodd yr Athro Renold Fedal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru, am eu gwaith ar addysg rhywedd a rhywioldeb.

Parhaodd y gwaith hwnnw drwy gydol y pandemig, gydag adnoddau a ffilmiau ychwanegol yn cael eu datblygu i gefnogi ysgolion wrth i addysgu a dysgu symud ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Symudodd rhaglen dysgu proffesiynol EJ ar-lein hefyd, a rhannwyd y canlyniadau yng nghynhadledd ACRh ar-lein gyntaf Cymru ar gyfer ymarferwyr, gyda chefnogaeth Lynne Neagle, y gweinidog dros Iechyd Meddwl a Lles. Daeth dros 300 o athrawon ledled Cymru i’r gynhadledd a thros 15 o sefydliadau ACRh.

Yn ôl yr Athro Renold: “Un o themâu’r gynhadledd oedd sut mae ACRh o’n cwmpas ni i gyd. Bob dydd, mae cwricwlwm cudd ar y gweill wrth i blant a phobl ifanc lywio byd sy’n newid yn gyson o ran sut mae rhyw, rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd yn llunio eu bywydau.”

Maent yn ychwanegu: “Dros y 25 mlynedd diwethaf yn gweithio ym maes ACRh, rydw i wedi dysgu bod angen i ni ddatblygu’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio i wrando ar bobl ifanc gyda phobl ifanc, ond bod angen i ni fod yn ymatebol ac yn gyfrifol gyda’r hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym. A chreadigrwydd yw popeth! Mae’r dull hwn yn ein galluogi i fod yn chwilfrydig o ran yr hyn sydd angen ei newid a sut.”

alt text
Yn 2021, derbyniodd yr Athro Renold Fedal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru, am eu gwaith ar addysg rhywedd a rhywioldeb.

Rhagor o wybodaeth

Adnoddau

  • AGENDA, cefnogi plant a phobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri
  • CRUSH, trawsffurfio addysg cydberthynas a rhywioldeb

Blogiau ymchwil

Fideos

  • Cymorth Ymchwil ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fideo o 2020 am yr Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd a fydd yn rhan annatod o gwricwlwm Cymru o 2022.
  • Oriel ACRh, ffilm sy’n cynnwys delweddau gan blant a phobl ifanc ar beth a sut y maent am ddysgu drwy eu Haddysg Perthnasoedd a Chydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn yr ysgol.
  • Cymorth Bywyd, prosiect cydweithredol gydag 8 o bobl ifanc, gweithwyr o Forsythia Youth, dau academydd (EJ Renold, Prifysgol Caerdydd, a Gabrielle Ivinson, Prifysgol Fetropolitan Manceinion), a dau artist (Heloise Godfrey-Talbot a Rowan Talbot). Cafodd ei ariannu’n rhannol gan Raglen Productive Margins ESRC/AHRC.
  • Graphic Moves, stori ddigidol arddangosfa o waith celf a greodd pobl ifanc i archwilio eu perthynas â’u cymuned.
  • Beth os #dymafi?, stori ddigidol am y prosiect ymgysylltu ymchwil cyfiawnder rhywiol #DYMAFI, wedi’i gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
  • Gwneud Lle, sy’n cynnwys un o’r 23 ysgol sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen dysgu proffesiynol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Consortiwm Canolbarth y De a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd gan yr Athro Renold.
  • Mae Pob Corff yn Bwysig, stori ddigidol yr astudiaeth achos EveryBODY Matters: teimlo gwahaniaeth ac amrywiaeth gyda symudiad, sain a delweddau.
  • O dan Bwysau?, y stori ddigidol o ddefnyddio’r cwricwlwm ‘grymoedd’ mewn ffiseg i archwilio cydsyniad a rheolaeth drwy orfodaeth drwy sain, symudiad, ac ap glitch.
  • Body Swing, ffilm fer o 2015 sy’n dangos yr artist symudiad Jên Angharad wrth iddi siglo drwy arddangosfa o ffilm, cerflunwaith a sain.

Partneriaid