Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw Dr Mansur Ali yn ddieithr i gampau anhygoel gwyddoniaeth fodern. Fel plentyn blwydd oed, syrthiodd i ddŵr berwedig gan arwain at losg trydedd radd ar ei gefn. Dywedodd meddygon wrth ei rieni am baratoi ar gyfer y gwaethaf.

Ond diolch i weithdrefnau meddygol blaengar sy’n cynnwys cymryd croen o ran arall o’i gorff a’i impio ar ei gefn yn ogystal â gofal meddygol astud, fe dynnodd drwodd.

Dri degawd yn ddiweddarach, fel ysgolhaig, mae’n ceisio rhoi eglurder i Fwslimiaid Prydain ar yr hyn y mae eu ffydd yn ei ddweud am ddatblygiad enfawr arall mewn meddygaeth - rhoi organau.

Newidiodd y ddeddfwriaeth am roi organau yng Nghymru yn 2015. Dilynodd Lloegr a’r Alban eu hesiampl yn 2020 a 2021 yn y drefn honno. Mae’r cyfreithiau newydd yn rhoi pwyslais ar gydsyniad tybiedig sy'n golygu bod yn rhaid i berson optio allan yn hytrach nag optio i mewn i'r cynllun rhoi organau. Gwnaed hyn mewn ymgais i gynyddu nifer y gweithdrefnau trawsblannu sy'n achub bywydau y gellir eu cyflawni.

Mae prinder rhoddwyr organau cofrestredig hefyd o gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y DU, sy’n golygu bod y rhai sydd â’r un ethnigrwydd y mae angen organ arnynt yn llai tebygol o ddod o hyd i gyfatebiaeth gydnaws.

Felly pan ddechreuodd cyd-Fwslimiaid gysylltu â Dr Ali, academydd o Brifysgol Caerdydd sydd hefyd yn Imam cymwysedig, neu’n arweinydd cymunedol, am y newidiadau i’r gyfraith, penderfynodd ymchwilio i safbwynt ei ffydd ynghylch y pwnc hynod emosiynol hwn.

Mae’n esbonio: “Pan ddaeth y polisi ‘optio allan’ yn gyfraith yng Nghymru, roedd fy ffôn yn seinio’n ddi-baid â negeseuon testun ac ebyst gan bobl bryderus yn gofyn pob math o gwestiynau am roi organau. Gofynnwyd pethau fel, ‘A ganiateir rhoi organau yn Islam?’, ‘A fydd fy enaid yn mynd i’r nefoedd os yw fy organau wedi’u rhoi?’, ‘Beth os yw’r person sydd ag un o’m horganau yn cyflawni pechod?’, ‘A fyddaf yn cael fy atgyfodi heb organau?’ ac ‘A fydd fy organau’n eiddo i’r Llywodraeth yn awr mae’r gyfraith wedi dod i rym?’”

“Sylweddolais er fy lles fy hun yn ogystal ag i’m cymuned, roeddwn am astudio hyn yn fanylach. Fel rhywun sy’n hynod ddiolchgar am sgiliau meddygon ers iddynt achub fy mywyd, roeddwn am sicrhau bod cyd-Fwslimiaid yn gallu deall yn llawn oblygiadau rhoi organau.”

Mae chwilfrydedd Dr Ali a’i syched am wybodaeth yn ymestyn yn ôl i’w blentyndod. Yn 11 oed, daeth yn breswylydd yn gyntaf mewn Coleg Diwinyddol yn Birmingham ac yn ddiweddarach yn Ramsbottom, Manceinion Fwyaf, gan ganolbwyntio ar astudiaethau Islamaidd clasurol ac Arabeg ochr yn ochr â phynciau’r cwricwlwm cenedlaethol.

Ddegawd yn ddiweddarach, cymhwysodd fel Imam, arweinydd uchel ei barch o fewn y gymuned Fwslimaidd a all roi cyngor ac arweiniad ar unrhyw fater sy’n ymwneud â’u ffydd. Y llwybr arferol oddi yno fyddai gweithio mewn mosg ac o fewn y gymuned.

“Roeddwn bob amser yn darllen o oedran ifanc,” meddai Dr Ali, a gafodd ei fagu yn Oldham, Manceinion Fwyaf. "Ro’n i wrth fy modd gyda’r Hobbit ac wedi darllen y clasuron i gyd yn gynnar iawn. Ond pan gefais fy anfon i’r ysgol breswyl, fy nealltwriaeth i o Islam oedd fy unig ffocws. Daeth addysg yn bopeth i mi.

“Pan raddiodd 10 mlynedd yn ddiweddarach, meddyliais, ‘Rwyf am ddilyn yr astudiaethau hyn i’r brig’.”

Adeiladodd Dr Ali ar y sylfeini hyn ac astudiodd radd israddedig ym Mhrifysgol fawreddog Al-Azhar yn Cairo, yr Aifft. Daeth yn ôl i gartref y teulu i wneud ei waith ôl-raddedig yn Astudiaethau’r Dwyrain Canol (astudiaethau Hadith) ym Mhrifysgol Manceinion.

Aeth ymlaen wedyn i fod yn gaplan Mwslimaidd yng Ngharchar Diogelwch Uchel Ashworth, cyn cael swydd ymchwil yng Nghanolfan Astudio Islam yn y DU, Prifysgol Caerdydd.

“Dwi’n dod o deulu mawr estynedig a dwi’n un o’r ieuengaf. Roeddwn i’n lwcus o allu canolbwyntio ar fy ngwaith academaidd heb orfod poeni am gyllid,” meddai. “Cefais gyllid ysgoloriaeth ar gyfer fy ngradd Meistr a PhD ym Mhrifysgol Manceinion.

“Mae fy nghefndir a’m profiad yn golygu fy mod mewn sefyllfa dda i archwilio materion sy’n ymwneud â’r ffydd Fwslimaidd. Rwyf wedi hyfforddi fel Imam felly mae gen i brofiad o waith ar lawr gwlad ac mae gen i gysylltiadau cryf â’r gymuned Fwslemaidd. Ond fel academydd, rwyf hefyd yn gallu darparu persbectif gwahanol a chynnig safbwynt annibynnol, ysgolheigaidd. Mae gen i’r rhyddid i holi a stilio.”

Ychwanega: “Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, mae fy syniad am fy rôl wedi datblygu ac esblygu. Mae’n ymwneud â darparu deialog, o fewn y gymuned Fwslimaidd ond hefyd gyda phobl o grefyddau eraill a dim ffydd yn byw ym Mhrydain. Yn y pen draw, rydym i gyd yn aelodau o gymdeithas Prydain.

“Fel rhywun sydd wedi tyfu i fyny yn y DU ac sy'n galw Caerdydd yn gartref i mi, rwy’n gweld fy rôl fel bwydo i mewn i sgwrs am sut mae Mwslimiaid yn cydfodoli ym Mhrydain mewn ffordd lle mae pobl y tu allan i'r ffydd yn deall ein safbwyntiau ac rydym yn deall eu rhai nhw.”

Pan ddechreuodd ymchwilio i fater rhoi organau a’r hyn y mae’n ei olygu o fewn y ffydd Fwslimaidd, trodd Dr Ali yn gyntaf at fatwas. Mae fatwa yn farn grefyddol foesol, ond nid yn gyfreithiol, awdurdodol gan berson sydd wedi’i hyfforddi mewn cyfraith Islamaidd (mwffti).

Cyn ei ymchwil, comisiynwyd tri fatwa am roi organau yn y DU ym 1995, 2000 a 2004. Er ei bod yn ymddangos bod y tri yn cytuno’n fras ag agwedd ganiataol tuag at roi organau, dadleuodd Dr Ali nad ydynt yn trafod safbwyntiau anghytûn nac yn rhoi cyfiawnhad diwinyddol a ysgrythurol clir am eu casgliadau, nac yn rhoi arweiniad clir. Yna estynnodd ei ddadansoddiad o’r fatwas hyn i astudio’r holl fatwas perthnasol yn Saesneg, Arabeg ac Urdu y tu allan i’r DU – cyfanswm o fwy na 100.

“Roedd yn ymgymeriad enfawr, ond roedd y goblygiadau yn y fantol hefyd,” meddai Dr Ali.

Yn y DU, mae cyfran uchel o bobl o gefndiroedd Pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig yn datblygu pwysedd gwaed uchel, diabetes a mathau penodol o hepatitis, sy’n cynyddu eu siawns o fod angen trawsblaniad.

Mae’r organ roddedig orau yn debygol o ddod o gefndir ethnig cyffredin, felly mae’r prinder o roddwyr organau o’r grwpiau hyn yn lleihau’r siawns y caiff organ roddedig ei thrawsblannu’n llwyddiannus. Yn 2015/16, roedd Pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig yn cynnwys bron i 30% (1,836) o’r rhestr aros, ond dim ond 5% (67) o roddwyr ymadawedig. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn aros yn llawer hirach am drawsblaniad, gan arwain at fwy o risg o farwolaeth.

Yn ogystal ag astudio’r safbwyntiau ysgrifenedig hyn ar roi organau, estynnodd Dr Ali ei ymchwil hefyd i gyfweliadau ag ysgolheigion Mwslimaidd i gael eu dehongliad o’r fatwas mewn cyd-destun Islamaidd Prydeinig modern.

Daeth ei ymchwil i’r casgliad bod cyfiawnhad diwinyddol o blaid ac yn erbyn rhoi organau, ac o ystyried bod modd cyfiawnhau unrhyw un o’r safbwyntiau hyn yn ddiwinyddol i Fwslimiaid eu mabwysiadu, dylid caniatáu i Fwslimiaid Prydain wneud dewis personol.

“Mae hwn yn fater anodd gan nad yw pobl am feddwl am eu marwolaeth eu hunain,” meddai Dr Ali.

“Nid fy lle i nac unrhyw un arall yw dweud beth yw’r llwybr cywir i’w gymryd yn y sefyllfa hon. Fy nod drwy gydol y broses hon oedd sicrhau fy mod yn caniatáu i Fwslimiaid wneud penderfyniad gwybodus. Mae’n ymwneud ag agor y drafodaeth honno fel y gall pobl wneud y dewis sy’n iawn iddyn nhw.”

Mansur Ali
Dywed Dr Mansur Ali fod ei ymchwil yn dangos y dylai Mwslimiaid allu gwneud dewis personol am roi organau.

Gofynnodd Dr Ali hefyd am farn Mwslimiaid Prydain. Canfu ei gorff cronnol o ymchwil o 2016-2019 mai anaml iawn y rhoddwyd gwybod i Fwslimiaid Prydeinig am yr holl ddehongliadau ynghylch rhoi organau.

Yn 2016, cofnododd y rhesymau diwinyddol y tu ôl i anfodlonrwydd Mwslimaidd i roi organau ar ôl marw, a'r heriau moesegol y mae’r ddeddfwriaeth yn eu codi. Canfu ei arolwg o 421 o Fwslimiaid Prydeinig fod hanner yn credu na ellid caniatáu rhoi organau neu nad oeddent yn sicr o'r sefyllfa ac na fyddent yn cyfrannu o ganlyniad.

Mae'r ymchwil wedi bwydo i gyfathrebu ynghylch Cynllun Buddsoddi Cymunedol Rhoi Organau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (NHSBT), sy'n ymgysylltu ag arweinwyr ffydd Mwslimaidd a dylanwadwyr cymunedol i gynyddu agweddau cadarnhaol tuag at roi organau ymhlith y cymunedau Mwslimaidd amrywiol yn y DU.

Gofynnwyd iddo roi cymorth i nifer o brosiectau rhoi organau eraill a ariennir gan NHSBT gan gynnwys y rhai a dderbyniodd arian gan Gynllun Buddsoddi Cymunedol NHSBT yn Llundain, Bryste, Preston, Blackburn, Burnley a Newcastle. At hynny, cynorthwyodd NHSBT ynghylch cyhoeddi a chyd-destun fatwa 210 tudalen annibynnol Mufti Mohammed Zubair Butt, a oedd yn cynnig dehongliad wedi'i ddiweddaru ar roi organau

Yn ogystal, cynhaliodd Dr Ali sesiynau trafod gydag arweinwyr Islamaidd ac aelodau o'r gymuned i gyfleu ei waith.

Dangosodd adborth o weithdai a sesiynau ar gyfer NHSBT fod dros 60% o'r cyfranogwyr a oedd naill ai'n ansicr neu a oedd wedi ystyried rhoi organau yn waharddedig, bellach yn ei ystyried yn ganiataol mewn rhai cyd-destunau ar ôl y gweithdai.

Dywedodd bron i 95% o'r cyfranogwyr eu bod yn dysgu safbwyntiau diwinyddol newydd, a bod eu pryderon yn cael eu lleddfu drwy ddysgu am y llinellau dehongli lluosog posibl.

At hynny, nododd 100% o'r ymatebwyr i arolwg ôl-weminar bod eu dealltwriaeth wedi newid.

Dywed Dr Ali: "Mae hwn yn faes cymhleth ac yn un sy'n codi llawer o gwestiynau mwy hefyd - am sut rydyn ni'n ystyried ein hunain yn fodau dynol.

“Fy rôl i yw rhannu gwybodaeth a chychwyn deialogau, siarad â phobl yn hytrach na siarad i bobl. Yn y pen draw, dewis a chyfrifoldeb unigol ydyw.”

alt text
Rhanna Dr Ali ei feddyliau am fatwa diweddaraf y DU am roi organau, gan Mufti Mohammed Zubair Butt.

Pobl

Dr Muhammad Mansur Ali

Dr Muhammad Mansur Ali

Lecturer in Islamic Studies, Director of Postgraduate Taught Studies

Email
alimm1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6297

Cyhoeddiadau

Partneriaid