Ewch i’r prif gynnwys

Llywydd ac Is-Ganghellor

Ffotograff o'r Athro Wendy Larner
Is-Ganghellor, Yr Athro Wendy Larner FRSNZ FAcSS PFHEA FNZGS

Y Llywydd ac Is-Ganghellor yw prif swyddog gweithredol y Brifysgol, gyda chyfrifoldebau ffurfiol ac eang dros arweinyddiaeth a rheolaeth y Brifysgol.

Ymgymerodd yr Athro Wendy Larner â swydd y Llywydd a’r Is-Ganghellor ar 1 Medi 2023.

Cyn hynny roedd hi'n Profost yn Te Herenga Waka—Prifysgol Victoria Wellington, Seland Newydd (2015-2023). Symudodd i Wellington o Brifysgol Bryste, lle bu’n Ddeon y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol (2005-2015). Bu hi hefyd yn Ddarlithydd ac yna'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Auckland (1997-2004). Mae hi hefyd wedi bod yn Gymrawd Fulbright ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison, ac yn Gymrawd Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Queen Mary, ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Frankfurt.

Yn wyddonydd cymdeithasol uchel ei pharch yn rhyngwladol, mae ei hymchwil ryngddisgyblaethol wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o neoryddfrydiaeth a globaleiddio. Ymhlith gwobrau eraill, mae hi wedi derbyn Medal Fictoria Cymdeithas Ddaearyddol Frenhinol y DU am ragoriaeth ei hymchwil, Gwobr Menywod Dylanwadol Seland Newydd ym maes Arloesi a Gwyddoniaeth, yn ogystal â Medal Daearyddwr Nodedig Seland Newydd. Mae hi'n frwd dros gefnogi a hyrwyddo cydweithwyr ar ddechrau eu gyrfa, ac mae wedi ymrwymo i wella tegwch ac amrywiaeth yn y sector ymchwil ehangach.

Yn 2018 daeth yr Athro Larner yn Llywydd Cymdeithas Frenhinol Te Apārangi, sef dim ond yr ail fenyw i ddal y swydd hon, a hi yw'r Is-Ganghellor benywaidd cyntaf erioed ym Mhrifysgol Caerdydd.

Aelodaeth

  • Cymrawd, Cymdeithas Frenhinol Te Apārangi
  • Cymrawd, Academi Gwyddorau Cymdeithasol y DU
  • Cymrawd, y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
  • Cymrawd, Cymdeithas Ddaearyddol Seland Newydd
  • Prif Gymrawd, Advance HE

Cyfrifoldebau

Fel Prif Swyddog Gweithredol, yr Athro Larner sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y Brifysgol
  • egni ariannol ac academaidd cyffredinol y Brifysgol
  • hyrwyddo ac eiriol dros y Brifysgol yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol
  • cynnal safonau rhagorol o atebolrwydd ar draws y Brifysgol, a safonau rhagorol o lywodraethu corfforaethol
  • fel y Swyddog Atebol, bod yn bersonol atebol i'r corff llywodraethu ac i'r llywodraeth am faterion y Brifysgol.

Mae hefyd yn Cadeirio'r pwyllgorau a'r grwpiau canlynol:

  • Bwrdd Gweithredol y Brifysgol
  • Senedd
  • Pwyllgor Dyfarniadau Academaidd
  • Y Grŵp Adolygu Cyllideb a Chynllunio

Manylion cyswllt

Cynorthwyydd personol

Sunita Farnham