Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio yma

Mae cynifer o resymau dros ddewis ffiseg a seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bodlonrwydd myfyrwyr

  • Sgoriodd ein myfyrwyr 100% am eu boddhad mewn seryddiaeth a 93% mewn ffiseg.
  • Mae 93% o'n myfyrwyr yn cytuno bod eu cwrs yn eu hysgogi’n ddeallusol.
  • Dywedodd 90% fod ganddyn nhw fynediad at yr adnoddau a’r cyfleusterau sy’n cefnogi eu dysgu. (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2022).

Cyflogadwyedd

  • Roedd 95.7% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu astudiaethau pellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Arolwg canlyniadau graddedigion diweddaraf (2019/20)
  • Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn y 20 uchaf (DU) Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd 2022 a 9fed yn y DU am raddau ffiseg (Canllaw Prifysgol Guardian 2023)

Achrediad

Rydym wedi cael ein hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP), sy’n golygu y bydd cyflogwyr ar draws y byd yn gosod gwerth uchel ar eich gradd.

Hyblygrwydd

Mae fframwaith cyffredin i’n graddau yn y flwyddyn gyntaf, sy’n golygu bod modd i chi gyfnewid eich gradd hyd at ddechrau eich ail flwyddyn.

Yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf

  • Dyfarnwyd bod 99% o'r ymchwil a gyflwynon ni yn 'arwain y byd' neu’n 'ardderchog yn rhyngwladol' (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).
Physicist carrying out research

Cyfleusterau modern

Yn dilyn ein buddsoddiad o £300 miliwn, mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnig amgylchedd gwych, lle mae ymchwil yn cwrdd â diwydiant i ysbrydoli arloesedd. Yma gallwch elwa o labordai addysgu â digonedd o gyfarpar, darlithfeydd a adnewyddwyd yn ddiweddar, a llyfrgelloedd sy’n cynnig cyfleoedd gwych i astudio’n unigol ac mewn grwpiau.

Ac ar ben hynny, rydym yn cynnal ein gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600 miliwn yn ein dyfodol. Bydd y gwaith uwchraddio sylweddol hwn yn trawsffurfio’r campws ar gyfer yr 21ain ganrif.

Students outside Queen's Building

Lleoliad gwych

Daith gerdded fer o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, cewch hyd i ddinas sy’n enwog am fod yn un o’r mwyaf cyfeillgar yn y Deyrnas Unedig. Yn berffaith i fyfyrwyr, mae’n hygyrch iawn o breswylfeydd y Brifysgol ac o fewn cyrraedd cerdded i Undeb y Myfyrwyr - a ddaeth yn ail yn y DU yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023 yng nghategori’r undeb myfyrwyr gorau, ac mae’n gyson yn y 5 uchaf o ran boddhad myfyrwyr yn y DU. Mae Caerdydd yn cynnig cynifer o leoedd gwych i fwyta, yfed, cymdeithasu, gweld golygfeydd a threulio'ch amser hamdden; bydd gennych ddigonedd o ddewis gyda rhywbeth at ddant pawb. Peidiwch â chymryd ein gair yn unig, dywedodd Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2023 fod Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU.

Teacher with 2 students

Addysgu sy’n ymgysylltu

Mae ein staff addysgu yn academyddion o fri rhyngwladol sy’n credu’n angerddol mewn addysgu’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr.

Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn ffiseg a seryddiaeth, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol.

I gyd-fynd â’r darlithoedd traddodiadol, y tiwtorialau a’r gwaith labordy ceir modiwlau sydd wedi’u seilio ar gyfrifiaduron, prosiectau a sgiliau.

Gwaith labordy

Mae dosbarthiadau ymarferol pedair awr yr wythnos yn rhan allweddol o’n holl gyrsiau, lle byddwch chi’n dysgu defnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf, datblygu modelau cyfrifiadurol a dadansoddi data.

Yn y flwyddyn gyntaf, rhoddir pwyslais ar dechnegau sylfaenol, cofnodi arsylwadau’n syml ond yn gywir ac ail-greu rhai arbrofion ffiseg clasurol. Yn y blynyddoedd diweddarach, byddwch yn symud tuag at arbrofion mwy sylweddol y mae angen cynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau ar eu cyfer, ac adrodd i safon broffesiynol.

Prosiect blwyddyn olaf

Yn ystod eich blwyddyn olaf, wrth gynnal prosiect ymchwil annibynnol, cewch eich annog i weithio gydag un o’n grwpiau ymchwil ar brosiect o’ch dewis. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am feysydd cyffrous ffiseg a seryddiaeth, megis darganfod tonnau disgyrchol.

Ni allaf argymell profiad y flwyddyn ar leoliad ddigon. Mae’n gyfle dysgu ardderchog sy’n rhoi cipolwg ar amgylchedd gwaith, i chi ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac yn rhoi cyfle i ddatrys problemau. Bydd cwblhau lleoliad yn sicrhau eich bod yn gwneud argraff ar gyflogwyr, gan eich rhoi chi gam ar y blaen ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

Matt Hutchinson, myfyriwr graddedig BSc

Lleoliadau proffesiynol

Os dewiswch un o’n cyrsiau sy’n cynnwys blwyddyn ar leoliad, byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn ar leoliad proffesiynol gyda diwydiant, masnach, llywodraeth, neu ddarparwr lleoliad perthnasol arall a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Bwriad y flwyddyn hon yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach, eich annog i ddefnyddio menter, a chaffael methodoleg gwaith proffesiynol trwy brofi rhyw lefel o gyfrifoldeb proffesiynol.

Lleoliadau ymchwil dros yr haf

Rydym hefyd yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr dreulio haf yn gweithio gyda’n staff ar brosiect bywyd go iawn yn ein lleoliadau ymchwil dros yr haf.

Byddwch yn rhan o Estyn Allan

Mae llu o gyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a’r cyhoedd yn gyffredinol trwy ddigwyddiadau cyffrous, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

Myfyrwyr sy'n cael y prif sylw yn yr adran Ffiseg, ac mae'n ceisio rhoi'r profiad addysgu gorau posibl i bob myfyriwr.

Peri Jones, BSc graduate

Rydym ni’n gwrando ar ein myfyrwyr

Rydym ni’n ceisio sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn cael cyfle i roi eu hadborth ar ein haddysgu a’u profiad fel myfyriwr yn ei grynswth.

Mae ein panel staff a myfyrwyr yn cynnwys cynrychiolwyr sy’n fyfyrwyr ac yn cael ei gadeirio gan fyfyriwr a etholwyd, ac anogir myfyrwyr i roi adborth trwy eu cynrychiolwyr myfyrwyr a’r holiaduron a gyflwynir ar ddiwedd pob modiwl.

Rydym ni’n cynnig cefnogaeth

Byddwch chi’n ymuno ag Ysgol gyfeillgar, hawdd ymwneud â hi, lle bydd y staff bob amser yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu.

Rydym ni’n cynnig Tiwtor Personol, Mentoriaid Myfyrwyr, ac yn gweithredu polisi ‘drws agored’ yn yr Ysgol, sy’n golygu bod staff wrth law bob amser.

Mae gennym ni hefyd ymgynghorydd gyrfaoedd, sy’n trefnu digwyddiadau ac yn cynnig arweiniad rhagorol i’ch helpu i nodi a chyflawni eich dyheadau gyrfa. Yn yr un modd, mae’r Brifysgol yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o gymorth i fyfyrwyr, sy’n cwmpasu pob agwedd ar fywyd y myfyriwr.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein sianel YouTube

Ewch i’n sianel YouTube, lle cewch lwyth o fideos gan ein staff a’n myfyrwyr i roi blas ar fywyd yr Ysgol i chi!