Cyrsiau israddedig
Mae ein rhaglenni gradd yn cyfleu cyffro ffiseg a seryddiaeth, datblygu eich sgiliau wrth ddatrys problemau a’ch helpu i baratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd.

Rydym yn falch iawn o ansawdd ein haddysgu a llwyddiannau ein myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i astudio ffiseg a seryddiaeth, o bersbectif addysgu ac ymchwil.
Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2020, mynegodd 96% o'n graddedigion foddhad cyffredinol ar ein cyrsiau gradd, gyda 92% yn Ffiseg a 100% yn Seryddiaeth. Mae’r arolwg annibynnol o fyfyrwyr yn dangos bod ein myfyrwyr yn mynegi lefelau uchel o foddhad yn gyson.
Astudio hyblyg
Mae gan bob un o'n cyrsiau israddedig flwyddyn gyntaf gyffredin, sy'n eich caniatáu i drosglwyddo i gwrs israddedig gwahanol yn yr Ysgol os hoffech wneud hynny. Gallwch benderfynu ar gynnwys eich cyrsiau 3ydd a 4edd flwyddyn ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Rhaglen astudio hyblyg yw hon sy'n eich galluogi i newid eich meddwl os byddwch yn penderfynu y byddai'n well gennych astudio un o'n cyrsiau eraill unwaith yr ydych wedi dechrau ar gwrs gradd gyda ni.
Cyrsiau gradd
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau gradd israddedig.
Dewch i ddarganfod yr ystod o gefnogaeth, help a gwybodaeth y gallwn eu cynnig i fyfyrwyr rhyngwladol.