Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau ymweld i ymgeiswyr

Mae diwrnodau ymweld yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y lle cywir i astudio. Mae ymweld â'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn eich galluogi i gwrdd ag aelodau o'n staff academaidd, cael golwg ar ein cyfleusterau a phrofi awyrgylch yr Ysgol.

Rydym yn cynnig cyfle i'n hymgeiswyr ddod i weld yr Ysgol ar ddiwrnod ymweld. Mae'r diwrnod arferol yn cynnwys:

  • cyflwyniadau rhagarweiniol
  • darlithoedd rhagflas
  • sgwrs un i un ag aelod o staff academaidd
  • teithiau dan arweiniad myfyrwyr o'n cyfleusterau addysgu
  • taith gerdded o amgylch y Brifysgol
  • cyfleoedd i rieni gyfarfod â staff,
  • cinio yn ein ffreutur gyda staff a myfyrwyr.

Mae'r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn rhithwir tra bod cyfyngiadau ar waith oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd drwy ebost i ddiwrnod ymweld yn yr Ysgol ar ôl derbyn eu cynnig.

Mae yna hefyd ddiwrnodau agored yn y Brifysgol sy'n dangos i chi beth sydd gan Brifysgol Caerdydd a Dinas Caerdydd i'w gynnig i fyfyrwyr yn ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth am ein diwrnodau ymweld â'r Ysgol, cysylltwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

Physics and Astronomy admissions team