Amdanom ni
Mae ein gwaith ymchwil sy'n arwain y byd ym maes ffiseg ac atroffiseg yn ein helpu i ddeall y byd ffisegol o'n cwmpas yn well ac yn llywio addysg ein myfyrwyr i sicrhau ein bod yn cynhyrchu graddedigion sy’n eithriadol o gyflogadwy.
Rydym yn ceisio sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r byd o’n cwmpas a chynnig atebion i’r heriau pwysig sy’n wynebu gwyddoniaeth a chymdeithas. Rydym yn gweithio oddi mewn i amgylchedd ymchwil ysgogol, deinamig, gyda chymorth cyfleusterau ymchwil modern o ansawdd uchel a staff ymchwil sy’n enwog yn rhyngwladol.
Ein myfyrwyr
Rydym yn darparu amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol ar gyfer ein myfyrwyr. Ein nod yw eu trwytho yn egwyddorion ffiseg a seryddiaeth. Rydym yn eu herio i ddatrys problemau ymarferol a dyfnhau eu dealltwriaeth o wyddoniaeth er mwyn cyfleu cyffro a phwysigrwydd chyffredinol y pwnc i gymdeithas a'r gymuned ehangach.
Cydnabyddiaeth annibynnol
Mae ein myfyrwyr hefyd yn gosod gwerth ar ein haddysgu a’n cyfleusterau. Dywedodd 96% ohonynt eu bod yn gyffredinol fodlon ar ansawdd ein cyrsiau yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf.
Cawsom statws Ymarferydd Juno gan Banel Asesu Juno y Sefydliad Ffiseg, i gydnabod ein harferion cydraddoldeb ac amrywiaeth.