Ewch i’r prif gynnwys

Estyn Allan

Rydym yn hysbysu'r cyhoedd am ymchwil wyddonol arloesol, yn darparu adnoddau ar gyfer athrawon ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn gwyddoniaeth.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn allweddol bwysig ac rydym ni’n cynnal llawer o raglenni estyn allan llwyddiannus a sylweddol, sy’n cael eu cydlynu gan Bennaeth Ymgysylltiad Cyhoeddus yr Ysgol, Dr Chris North.

Mae ‘estyn allan’ yn cyfeirio at ymdrechion gwyddonwyr i ddod i gysylltiad â’r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn rhannu’r hyn mae ymchwil flaengar wedi’i ddatgelu, darparu deunyddiau addysgol gwerthfawr i athrawon, ac ysbrydoli gwyddonwyr ifanc yfory.

Rhaglenni estyn allan

Y Bydysawd yn y Dosbarth

Nod prosiect y Bydysawd yn yr Ystafell Ddosbarth yw gwella addysg STEM i blant difreintiedig trwy ysbrydoli chwilfrydedd am y bydysawd.

Gweithgareddau estyn allan ar raddfa fawr

Rydym yn cynnal gweithgareddau allgymorth ar raddfa fawr, gan gynnwys y cyhoedd ac ysgolion drwy brosiectau, cyflwyniadau, ymddangosiadau yn y cyfryngau, a chydweithio â gwyddonwyr o fri, gan ddenu dros £1.5M o gyllid ers 2016.

Cyfleoedd i fyfyrwyr fod yn rhan o estyn allan

Gall myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddatblygu ymgysylltu â'r cyhoedd a sgiliau sy'n canolbwyntio ar yrfa trwy weithgareddau allgymorth a Chynllun Gwobr Caerdydd.

Creu cysylltiadau pwysig â diwydiant

Mae ein hymchwil yn sbarduno twf economaidd ac effaith gymdeithasol trwy gydweithio â diwydiant, creu swyddi, a meithrin arloesedd, fel y dangosir gan y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Cysylltu â ni

Dr Chris North

Dr Chris North

Undergraduate Admissions Tutor, Ogden Science Lecturer, STFC Public Engagement Fellow

Email
northce@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0537