Dysgwch iaith newydd dros yr haf

Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.
Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal dros gyfnodau o wythnos neu bythefnos yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf a byddan nhw’n ddwys ac yn brofiad braf! Bydd ein cyrsiau sgwrsio iaith yn cael eu haddysgu'n bersonol. Bydd y cwrs Wcreineg yn cael ei gyflwyno ar-lein. Gan diwtoriaid arbenigol sy'n siarad yn frodorol. Disgwyliwch ddysgu iaith yn gyflym mewn dosbarth rhyngweithiol a chalonogol.
I ddathlu, rydym yn lansio cystadleuaeth lle gallwch ennill cwrs rhad ac am ddim. I gystadlu mae angen i chi gwblhau arolwg byr iawn.
Telerau ac amodau
1. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i'r cyhoedd ac i fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd, ac eithrio'r rheini sy'n gweithio yn yr Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol.
2. Cyhoeddir yr enillydd 11 Mai 2023.
3. Y wobr yw cwrs iaith dwys o'r ddarpariaeth ar gyfer haf 2023, ac ni ellir ei throsglwyddo.
4. I fod yn gymwys i ennill, rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod dros 18 oed a llenwi'r ffurflen gystadlu cyn i'r arolwg ddod i ben.
5. Ar ddiwrnod dewis yr enillydd, caiff enw a chyfeiriad e-bost eu dethol ar hap o blith yr holl gynigion. Byddwn yn cysylltu ag enillydd y wobr drwy e-bost/dros y ffôn.
6. Os na ellir cysylltu â'r enillydd drwy ei gyfeiriad e-bost, neu os na fydd yn ymateb i neges yr Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol o fewn 7 diwrnod, mae gan yr Adran hawl i ddewis enillydd arall o blith y cynigion a ddaeth i law.
7. Dim ond unwaith y cewch gystadlu. Mae’r Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn cadw’r hawl i ddiarddel unigolyn sy'n cystadlu fwy nag unwaith.
8. Mae'n bosibl y bydd yr Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn gofyn i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd di-dâl i hyrwyddo'r gystadleuaeth a'r Adran, ond nid yw cytuno i wneud hynny yn un o'r amodau os byddwch yn ennill. Dylid cyflwyno ymholiadau am y gystadleuaeth hon i learn@caerdydd.ac.uk.
Cyrsiau sydd ar gael
Cyrsiau Cymraeg i oedolion
Rydym yn cynnig sesiynau rhagflas yn ogystal â chyrsiau i ddechreuwyr hyd at gyrsiau i siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.