Ewch i’r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Talu

Mae’n rhaid talu wrth ymrestru, ac os oes modd dylech ymrestru cyn y dosbarth cyntaf. Os yw taliad drwy randaliad wedi’i gytuno, ar gyfer yr ail daliad rhaid talu ffi llawn y cwrs, p’un a ydych wedi mynychu pob dosbarth neu beidio.

Ad-daliadau a chanslo cyrsiau

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu gyfyngu ar gyrsiau. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi ad-daliad llawn neu rannol fel sy'n briodol.

Myfyrwyr sy'n tynnu nôl ac ad-daliadau

Os ydych yn dymuno gadael cwrs, bydd rhaid cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cwrs ac yna byddwn yn prosesu eich ad-daliad. Ar adegau prysur, mae'n bosibl y bydd eich ad-daliad yn cymryd hyd at bedair wythnos i'w brosesu a bydd ffi weinyddol o £10.

Unwaith y bydd cwrs wedi dechrau, ni fyddwn yn rhoi ad-daliad i fyfyriwr sy'n penderfynu tynnu’n ôl.

Ceisiadau am drosglwyddo

Unwaith y bydd cwrs wedi dechrau, efallai y gallwn ganiatáu trosglwyddiad i gwrs arall o dan rai amgylchiadau, e.e. nid yw'r lefel yn addas.

Ni fyddwn yn cymeradwyo ceisiadau i drosglwyddo yn awtomatig ym mhob achos, a dylid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig i learn@caerdydd.ac.uk (er gall myfyrwyr ffonio os bydd ceisiadau brys).

Os caniateir i chi drosglwyddo ac mae ffi'r cwrs newydd yr un peth, neu'n is, ni fydd tâl. Os yw ffi'r cwrs newydd yn uwch, bydd yn rhaid talu'r balans yn llawn. Sylwer hefyd mai unwaith yn unig y byddwch yn gallu trosglwyddo ffi cwrs. Mae trosglwyddiadau fel arfer yn ddilys am 12 mis.

Cadarnhad o'ch archeb a lleoliad dosbarthiadau

Byddwn yn cysylltu â chi os na allwn dderbyn eich ymrestriad am unrhyw reswm.

Os nad ydych wedi derbyn eich cadarnhad o archebu cyn dechrau’r cwrs, dylech fynychu’r cyfarfod cyntaf ar yr amser, dyddiad a’r lleoliad a nodwyd

Bydd amserlenni'n cael eu harddangos yn adeilad Addysg Barhaus a Phroffesiynol, Adeilad John Percival, ac unrhyw adeiladau eraill y Brifysgol, ac yn nodi mha ystafelloedd y bydd y dosbarthiadau. Dylech edrych am rif ystafell eich dosbarth ar y rhain pan fyddwch mynd i'ch sesiwn gyntaf.

Cyfyngiadau

Mae’n ofynnol i chi ddatgan unrhyw euogfarn sydd heb ddarfod os oes cyfyngiadau a allai effeithio ar eich gallu i ymgymryd ag unrhyw elfen o’ch rhaglen astudio.

Os oes unrhyw gyfyngiadau arnoch sy’n eich atal rhag defnyddio’r rhyngrwyd neu raglenni fel ebost, rhaid i chi roi gwybod i’r Brifysgol.

Rhaid i chi roi gwybod i’r Brifysgol hefyd os oes unrhyw gyfyngiadau arnoch o ran cyrffyw, a/neu, eich gallu i fynd i leoliadau/ardaloedd (gan gynnwys gorchmynion atal) fyddai’n effeithio ar eich gallu i fod yn bresennol ar gyfer unrhyw elfen o’ch cwrs.