Ewch i’r prif gynnwys

Disgwyliadau

Drwy fynychu un o’n cyrsiau byr rhan-amser rydych chi’n dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n golygu y gallwch ddisgwyl nifer o bethau gan y Brifysgol a disgwylir nifer o bethau gennych chi.

Beth ydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Yn ystod eich astudiaeth rhan-amser, bydd disgwyl i chi ddilyn rhai rheolau ymddygiad sy’n berthnasol i holl fyfyrwyr y Brifysgol.

Mae’r Rheolau Ymddygiad hyn ar gyfer myfyrwyr yn set glir o egwyddorion rydyn ni’n disgwyl i’n holl fyfyrwyr eu dilyn. Os byddwch chi’n torri unrhyw un o’r rheolau hyn byddwch yn destun Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr sy’n amlinellu proses ddisgyblu’r Brifysgol.

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio yn y Brifysgol. Dylech ystyried yn ofalus pa reolau sy’n berthnasol i chi fel myfyriwr gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Os hoffech siarad gyda ni am y rheolau hyn cysylltwch â ni.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

Mae ein Siarter Myfyrwyr yn nodi’r gwasanaethau y gallwch eu disgwyl tra’n astudio yn y Brifysgol.

Rydym wedi datblygu Siarter y Myfyrwyr mewn partneriaeth â myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol. Mae’n nodi manylion y rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau sydd gennym i gyd i wneud yn siŵr eich bod yn cael profiad o ansawdd uchel ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am Siarter y Myfyrwyr.