Ewch i’r prif gynnwys

Cymwysterau

Myfyrwyr yn gwisgo’u gŵn mewn seremoni wobrwyo
Yr Athro Amanda Coffey, Rhag Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, yn cyflwyno gwobrau yn ein seremoni 2017.

Mae cwblhau ein cyrsiau rhan-amser yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill credydau y gellir eu defnyddio tuag at gymwysterau addysg uwch.

Rydym yn cynnig pedwar cymhwyster y gallwch astudio tuag atynt:

Mae hwn yn ddyfarniad adrannol y byddwch chi’n ei gyflawni pan fyddwch yn ennill 60 credyd mewn un maes pwnc. Mewn rhai meysydd, mae’r cyfuniad o gyrsiau wedi’i ddiffinio ymlaen llaw.

Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Addysg Barhaus.

Os ydych chi’n dymuno astudio am un o’n Tystysgrifau Addysgu Barhaus, yna cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Gall y credydau rydych chi’n eu hennill ar gyfer Tystysgrif Addysg Barhaus hefyd gyfrif tuag at Tystysgrif Addysg Uwch.

Dyfernir y cymhwyster hwn sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol pan fyddwch yn ennill 120 credyd Lefel 4 o unrhyw gyfuniad o gyrsiau. Mae hyn yn cyfateb i’r gwaith gofynnol yn ystod blwyddyn gyntaf gradd israddedig llawn amser.

Y cyfyngiad amser i ennill y cymhwyster hwn yw 10 mlynedd. Bydd credydau o bob cwrs unigol yn cyfrif tuag at y cymhwyster hwn unwaith yn unig wedi i chi ddechrau gweithio tuag at y dystysgrif. Gallwch amnewid credydau lefel 5 am gredydau lefel 4. Os ydych chi’n bwriadu parhau i astudio a gweithio tuag at Ddiploma, ni all y credydau lefel 5 hyn gael eu cyfrif tuag at hwnnw hefyd.

Mae’r rhain yn ddyfarniadau adrannol ac fe’u dyfernir pan fyddwch yn ennill 60 credyd mewn un maes pwnc ar lefel 5. Yn y rhan fwyaf o feysydd pwnc mae’r cyfuniad o gyrsiau wedi’i ddiffinio ymlaen llaw.

Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Astudiaethau Uwch.

Os ydych chi’n dymuno astudio am Dystysgrif Astudiaeth Uwch Lefel 5, yna cysylltwch â’r darlithydd cydlynol priodol i drafod eich opsiynau. Gall y credydau rydych chi’n eu hennill ar gyfer Tystysgrif Addysg Barhaus hefyd gyfrif tuag at Tystysgrif Addysg Uwch.

Mae’r cymhwyster hwn yn ddyfarniad lefel 5 ac fe’i ddyfernir pan fyddwch yn ennill 5 credyd Lefel 120 o unrhyw gyfuniad o gyrsiau. Y cyfyngiad amser i ennill y cymhwyster hwn yw 10 mlynedd.

Lawrlwytho rhestr o bynciau.

Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am astudio tuag at Diploma ac ymrestru drwy lenwi'r ffurflen hon.

Sut mae credydau’n gweithio

Mae credydau’n rhan o gynllun cenedlaethol sy’n eich galluogi i weithio tuag at dyfarniad a gydnabyddir yn genedlaethol yn y rhan fwyaf o brifysgolion y DU.

Fel arfer mae credydau’n cael eu neilltuol i uned astudio mewn lluosrifau o 10. Maen nhw’n rhoi syniad o’r lefel yr ydych chi’n gweithio arni, a faint o waith sydd wedi’i gynnwys ac yn rhoi cydnabyddiaeth eich bod wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r Brifysgol yn galw pob uned astudio yn fodiwl ac fel arfer mae pob modiwl werth 10, 20 neu 30 credyd. Rydym wedi galw’r modiwlau hyn yn “gyrsiau”. Gallwch ddarganfod nifer y credydau ar gyfer pob cwrs drwy chwilio am gwrs. Cynigir credydau ar lefelau gwahanol fel a ganlyn:

  • Lefel 3 - cyfateb i astudiaeth lefel cyn safon gradd
  • Lefel 4 - cyfateb i astudiaeth israddedig y flwyddyn gyntaf
  • Lefel 5 - cyfateb i astudiaeth israddedig yr ail flwyddyn

Nid yw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau yn gofyn am unrhyw gymwysterau blaenorol ond noder bod rhai cyrsiau Lefel 5 yn gofyn am brofiad neu gymwysterau blaenorol.

Dysgu mwy am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Dilyniant

Gall ein cyrsiau eich helpu i symud ymlaen i raglen gradd israddedig gan y byddwch yn gallu dangos tystiolaeth ddiweddar o’ch gallu i astudio ar lefel gradd.

Os ydych am ddefnyddio’r cyrsiau rydych chi wedi’u hastudio gyda ni i gael eu credydu tuag at eich gradd, bydd rhaid iddynt gyd-fynd â’r modiwlau yn y rhaglen gradd. Mae hyn yn bosibl mewn rhai achosion.

Os ydych chi’n meddwl am fynd ymlaen i astudio gradd israddedig neu ôl-raddedig, mae’n syniad da siarad gydag un o’n darlithwyr cydlynol. Os ydych chi’n bendant am y gradd rydych chi am ei astudio, mae hefyd yn ddefnyddiol siarad gyda’r tiwtor derbyn perthnasol i gael syniad o’r paratoadau mwyaf priodol cyn i chi ddechrau. Bydd nifer o fyfyrwyr yn sylwi mai’r Tystysgrif Addysg Barhaus yw’r llwybr gorau.

Cymwysterau iaith rhyngwladol

Rydym yn ganolfan arholi gymeradwy ar gyfer nifer o sefydliadau diwylliannol rhyngwladol.

Gallwch sefyll arholiadau yn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Mandarin, Tsieinëeg a Siapanëeg, yn ogystal ag arholiadau ar gyfer cymwysterau proffesiynol mewn dehongli neu gyfieithu.

Rhagor o wybodaeth am gymwysterau iaith.

Seremoni wobrwyo flynyddol

Bob blwyddyn byddwn yn cynnal seremoni wobrwyo lle mae myfyrwyr Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn derbyn eu dyfarniad yng nghwmni cyd-fyfyrwyr, teulu a ffrindiau.

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch ar bob cyfrif:

Dysgu Gydol Oes

Ymholiadau cyffredinol