Creu Dilysu Aml-ffactor (MFA)
Yn achos llawer o systemau'r brifysgol, gan gynnwys ebost, Office 365, a mynediad o bell at raglenni, bydd yn rhaid ichi greu Dilysu Aml-Ffactor (MFA) i sicrhau bod eich data'n cael ei ddiogelu.
Mae MFA yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrif wrth fewngofnodi drwy sicrhau eich bod yn mewngofnodi ar ddyfais arall. Dyma ran bwysig o ddiogelu eich data personol.
Mae'n bwysig eich bod yn creu dau ddull dilysu gwahanol, a hynny er mwyn sicrhau y byddwch chi’n gallu defnyddio dyfais arall i ddefnyddio’ch cyfrif os bydd rhywbeth yn digwydd i un o’ch dyfeisiau.
Chwiliwch am 'MFA' ar fewnrwyd y myfyrwyr am gyfarwyddiadau cam wrth gam.
Cymorth a chefnogaeth
Mae TG y Brifysgol ar gael i estyn cymorth ichi i greu MFA:
- Anfonwch neges aton ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio – chwiliwch am yr eicon sgwrsio ar waelod y sgrîn ar y dde ym mhob un o dudalennau’r fewnrwyd ar gyfer cymorth TG
- Dewch i ymweld â'r Clinig TG yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr i gael cymorth wyneb yn wyneb
- Ffoniwch ni 24/7 ar +44 (0) 29 2251 1111