Cymorth a chefnogaeth
Diweddarwyd: 30/03/2023 14:41

Gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw, p'un a ydych yn ddarpar fyfyriwr neu'n fyfyriwr newydd.
Darpar fyfyrwyr
- Os ydych yn ddarpar fyfyriwr israddedig, darganfyddwch â phwy i gysylltu ar ein tudalen cyswllt israddedig.
- Os ydych yn ddarpar fyfyriwr ôl-raddedig, darganfyddwch â phwy i gysylltu ar ein tudalen cyswllt ôl-raddedig.
Myfyrwyr newydd
Os ydych yn fyfyriwr newydd ac wedi cofrestru ar-lein, gallwch gael help a chefnogaeth drwy ddefnyddio ein porth Cyswllt Myfyrwyr, neu drwy ebostio studentconnect@caerdydd.ac.uk.
Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn am unrhyw beth sy'n ymwneud â bywyd eich prifysgol, boed hynny'n ymwneud ag astudio neu eich lles.
Cyswllt Myfyrwyr
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch tra byddwch yn astudio yma, eich pwynt cyswllt cyntaf yw ein tîm a phorth Cyswllt Myfyrwyr.
Mae’r tîm Cyswllt Myfyrwyr, ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, ar gael i ateb amrywiaeth eang o gwestiynau, ac mae’n cefnogi llawer o’r prosesau neu’r gwasanaethau y gallai fod angen i chi eu defnyddio.
Mae cysylltu â’r tîm Cyswllt Myfyrwyr yn ffordd rwydd i chi gysylltu â’n timau Bywyd Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Mentoriaid myfyrwyr
Os oes gennych gwestiynau am eich cwrs, ein campws neu os ydych am gwrdd â phobl newydd o'ch cwrs, mae eich mentor myfyrwyr wrth law i helpu. P'un a ydych am wybod am ddysgu ac addysgu, gwasanaethau cymorth neu sut i gael y gorau o'ch amser gyda ni, cadwch lygad ar eich negeseuon ebost prifysgol a chysylltwch â'ch mentor.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun Mentoriaid Myfyrwyr.
Sgiliau astudio
Beth bynnag fo'ch cwrs neu lefel astudio, ein nod yw cefnogi ein holl fyfyrwyr yn eu dysgu. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd gennych fynediad at diwtorialau ar-lein hunan-dywysiedig, modiwl Sgiliau Astudio pwrpasol ar Ddysgu Canolog yn ogystal â dosbarthiadau rhyngweithiol byw.
Rhagor o wybodaeth am Sgiliau Astudio Academaidd.
Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol a rhad ac am ddim i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.