Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi

Diweddarwyd: 10/08/2023 13:19

Rydyn ni’n defnyddio ystod eang o sianeli cyfathrebu â’r myfyrwyr i'ch cadw mewn cysylltiad â'n cymuned a sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Eich ebost yn y brifysgol

Gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwybodaeth bwysig sy’n berthnasol ichi. Bydd ebyst y Brifysgol yn dod o gyfeiriad @caerdydd.ac.uk a byddan nhw’n cynnwys:

  • neges gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr Bydd Claire Morgan, ein Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, yn ysgrifennu at bob un o’r myfyrwyr ar ddechrau bob mis. Hwyrach y bydd negeseuon pwysig yn cael eu rhannu drwy'r ebyst hyn hefyd.
  • negeseuon gan eich ysgol academaidd: mae'r negeseuon hyn yn ymwneud yn benodol â'ch ysgol yn ogystal â’r newyddion diweddaraf fydd hwyrach yn effeithio arnoch chi a'ch astudiaethau.
  • newyddion Myfyrwyr: Newyddion Myfyrwyr yw ein prif sianel i rannu’r newyddion diweddaraf â'n myfyrwyr. Mae'n rhoi crynodeb o’r newyddion ar y fewnrwyd, ac mae’n cael ei anfon at fyfyrwyr bob dydd Llun
  • anfon negeseuon sy'n benodol i'r gynulleidfa: Rydyn ni’n anfon ebyst yn rheolaidd at grwpiau o fyfyrwyr penodol, gan gynnwys y rheini sy'n byw yn neuaddau preswyl y brifysgol a myfyrwyr sy'n agored i niwed neu'n anabl.

Mewnrwyd y myfyrwyr

Ar ôl y cyfnod ymrestru, cewch ddefnyddio ystod o adnoddau digidol gan gynnwys y fewnrwyd. Mae'r fewnrwyd yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth hollbwysig ac yn gartref i lawer o adnoddau defnyddiol ar bynciau gan gynnwys:

Pan fyddwch chi’n cyrchu eich ebyst, Dysgu Canolog, SIMS neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â bod yn fyfyriwr, byddwch yn effro i’r newyddion a’r cyhoeddiadau ar dudalen gartref y fewnrwyd. Bydd y rhain yn eich helpu i roi’r newyddion diweddaraf ichi.

Ap y Myfyrwyr

Lawrlwythwch ap y myfyrwyri:

  • gael llawer o wybodaeth ddefnyddiol am y brifysgol a'ch cwrs
  • gwirio ble mae’n rhaid ichi fod yn ogystal a chynllunio eich diwrnod
  • dod o hyd i’ch holl ddata mewn un lle, gan gynnwys benthyciadau llyfrgell a chredyd argraffu
  • cadarnhau y byddwch chi’n mynd i’ch apwyntiadau gyda thîm Bywyd Myfyrwyr
  • cael hysbysiadau sydyn sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gysylltu a rhyngweithio â phobl eraill. Maen nhw’n cynnwys awgrymiadau ardderchog ynghylch dysgu, gofalu amdanoch chi eich hun, adnoddau defnyddiol, cynnwys diddorol a newyddion am y brifysgol. Gallwch chi ddod o hyd inni ar:

Facebook

Instagram