Gwnewch gais i astudio cwrs iaith yn rhad ac am ddim
Diweddarwyd: 09/08/2023 14:58
P’un a ydych eisiau rhoi cynnig ar iaith newydd neu wella’r sgiliau sydd gennych chi eisoes, mae gennym ni amrywiaeth o ieithoedd a lefelau i chi ddewis o’u plith.
Ieithoedd i Bawb
Mynnwch fyd cyfan o leoliadau newydd, diwylliannau sy'n ysbrydoli a dewisiadau gyrfaol cyffrous drwy ddilyn cwrs iaith yn rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyrsiau wythnosol ar gyfer naw iaith, a chyrsiau carlam yw llawer o’r rhain. Gallwch hefyd wneud rhagor o ymarfer neu roi cynnig ar iaith newydd trwy ddefnyddio'r opsiwn dysgu annibynnol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau llyfrgell ffisegol ac ar-lein a chyfleoedd cyfnewid iaith.
Bydd ceisiadau ar gyfer gyrsiau wythnosol yn agor ar 11 Medi 2023. Cewch ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyn ar fewnrwyd y myfyrwyr fydd ar gael ar eich cyfer ar ôl ymrestru.
Os ydych newydd ddechrau eich gradd israddedig, rydym yn argymell eich bod yn aros tan y semester nesaf cyn dechrau dysgu iaith newydd. Bydd gwneud cais ychydig yn hwyrach yn rhoi amser i chi ymgartrefu a dod i arfer â bywyd yn y brifysgol.
Cymraeg i Bawb
Mae llawer o gyflogwyr a chwmnïau yn chwilio am raddedigion sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Ein rhaglen Cymraeg i Bawb rad ac am ddim yw eich cyfle i fanteisio ar ddarpariaeth arbenigol, broffesiynol ar amrywiaeth o lefelau.
Mae'r rhaglen wedi’i threfnu i’w chynnal ochr yn ochr â'ch astudiaethau, fel y gallwch ddysgu’r iaith ac astudio ar yr un pryd. Rydym yn cynnal cyrsiau wythnosol yn ystod y semester ac, ar hyn o bryd, yn cynnig cyrsiau carlam ar lefel dechreuwyr.
Fel myfyriwr presennol gallwch astudio, gweithio neu wirfoddoli drwy’r cynllun Cyfleoedd Byd-eang.