Ewch i’r prif gynnwys

Ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Diweddarwyd: 01/08/2022 15:09

Rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i chi drwy'r iaith Gymraeg gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Cymru i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Cangen o’r Coleg Cymraeg ym mhob Prifysgol.

Ymuno

Gallwch ymuno â'r Coleg Cymraeg fel disgybl ysgol, myfyriwr Prifysgol ac fel aelod o staff.

Trwy ymaelodi â’r coleg, byddwch yn derbyn gwybodaeth am:

  • ysgoloriaethau
  • ein llysgenhadon
  • profiad gwaith
  • gwobrau
  • ein Tystysgrif Sgiliau Iaith.

Cyfleoedd

Mae’r Gangen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn lleisio barn a chymryd rhan mwy blaenllaw ym mywyd academaidd y myfyrwyr. Mae’r Gangen yn chwilio am gynrychiolwyr myfyrwyr ar:

  • Baneli Pwnc
  • Pwyllgor y Gangen
  • Fforwm Myfyrwyr
  • Hyrwyddwyr Myfyrwyr
  • Llysgenhadon Dyddiau Agored.

Mae Llais y Myfyrwyr yn hollbwysig i helpu’r Brifysgol wella profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

Cysylltu

Cysylltwch â Swyddog Cangen Prifysgol Caerdydd, Elliw Iwan:

Elliw Iwan

Swyddog Cangen Caerdydd