Edrych ar eich ôl eich hun
Diweddarwyd: 12/05/2023 14:22
Gall pontio i fywyd prifysgol ddod â llawer o gyfleoedd, a all fod yn hawdd i rai, ac yn anoddach i eraill.
Profiadau cyffredin
- hiraeth wrth i chi ddod i arfer â ffordd newydd o fyw a bod oddi cartref, ac o bosibl sioc ddiwylliannol os ydych yn addasu i ddiwylliant newydd
- anhawster wrth addasu i fywyd myfyrwyr, gan y bydd eich trefn arferol yn newid i gyd-fynd â'ch amserlen newydd
- gweld newidiadau i sut rydych chi'n rheoli eich ffordd o fyw, er enghraifft faint rydych chi'n ei fwyta, yn yfed alcohol, yn cymdeithasu neu'n siopa
Gofalwch amdanoch chi eich hun
- gofalwch eich bod yn cymdeithasu a meithrin eich rhwydwaith o ffrindiau, drwy sgwrsio â ffrindiau yn y dosbarth, darlithwyr a chymdogion, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, cymryd rhan mewn digwyddiadau, gwirfoddoli a chyfleoedd profiad gwaith
- ceisiwch osgoi ynysu eich hun, a chadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
- cofiwch yfed digon o ddŵr a chadw wedi’ch hydradu, yn enwedig os ydych yn yfed alcohol
- ceisiwch fwyta deiet cytbwys ac osgoi gormod o fwyd cyfleus
- cofiwch sicrhau eich bod yn cael noson dda o gwsg
- cofiwch ymarfer corff i helpu gynnal iechyd corfforol a meddyliol da
- cofiwch y Pum Llwybr at Les os ydych chi am weithio tuag at wella sut rydych chi'n teimlo
- cofiwch ofyn am gymorth os ydych chi ei angen - mae gan y brifysgol amrywiaeth o wasanaethau yn ogystal â'r hyn y bydd eich ysgol yn ei gynnig, a all eich cefnogi gydag ystod o bryderon
Os ydych yn byw mewn llety prifysgol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â'ch tîm Bywyd Preswyl yn y lle cyntaf.
Cyngor pellach
Os oes problemau yn eich poeni yn ystod eich amser yn y Brifysgol, waeth pa mor fawr neu fach, mae'r tîm Iechyd a Lles Myfyrwyr yma i'ch helpu. Ar ôl i chi gwblhau cofrestru ar-lein bydd gennych fynediad at fewnrwyd y myfyrwyr, lle gallwch gael gafael ar adnoddau hunangymorth a rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y tîm Iechyd a Lles Myfyrwyr.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol a rhad ac am ddim i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Iechyd a Lles Myfyrwyr (Cathays)
Y ffordd hawdd o gynllunio eich diwrnod, cadarnhau lle mae angen i chi fod, a chael help a chymorth.