Ewch i’r prif gynnwys

Mynd o le i le

Diweddarwyd: 04/08/2022 15:57

Mae Caerdydd yn ddinas hygyrch gyda digon o fannau agored a gwyrdd i’w mwynhau. Mae’n rhwydd iawn mynd o gwmpas y campws a’r ddinas ar droed neu ar feic, heb yr angen i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwybod lle i fynd

  • Lawrlwythwch ap y myfyrwyr i’ch helpu i fynd o le i le ar y campws. Gallwch storio eich hoff leoedd a chael gwybod pa gyfleusterau eraill sydd gerllaw.
  • I gynllunio teithio i'r Brifysgol ac o amgylch y Brifysgol, ewch i My Uni Journey.
  • I gynllunio teithiau tu allan i'r Brifysgol, ewch i Traveline Cymru.

Dewch â beic gyda chi

Os ydych chi'n berchen ar feic, beth am ddod ag ef gyda chi, ynghyd â helmed a chlo D diogel? Mae beicio yn ffordd iach, werdd a hwyliog o deithio o amgylch y ddinas. Mae gan Gaerdydd rwydwaith cynyddol o lonydd beicio, sy'n gwneud teithio'n fwy diogel ac yn fwy pleserus. Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleusterau storio diogel mewn preswylfeydd ac o amgylch adeiladau'r campws.

Cofrestrwch i logi beic am ddim (Ovo Bikes, wedi'u pweru gan nextbike)

Manteisiwch ar aelodaeth flynyddol am ddim, gyda 30 munud am ddim bob taith.

Mae gorsafoedd llogi a beiciau yn agos at lawer o adeiladau'r Brifysgol ar draws y ddau gampws, ac yn cynnig cyfle perffaith i chi fwynhau beicio yng Nghaerdydd.

I gael aelodaeth am ddim, bydd angen i chi:

  • defnyddio eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd '@cardiff.ac.uk'
  • dewis Prifysgol Caerdydd o'r gwymplen Partneriaid
  • peidiwch â dewis unrhyw beth pan ofynnir i chi ddewis tanysgrifiad.

Mae angen i chi gofrestru cerdyn talu i gael aelodaeth OVObike. Codir £5 wrth gofrestru, ond caiff y taliad ei gredydu i'ch cyfrif OVObike.

Cofrestrwch ar-lein neu drwy'r ap (iOS, Android).

Defnyddio e-sgwteri

Byddwch yn ymwybodol bod defnyddio e-sgwter preifat yn anghyfreithlon ar briffyrdd cyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus. Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu defnyddio e-sgwteri ar y campws gan nad yw'n bosibl cael yswiriant priodol ar hyn o bryd ar gyfer e-sgwteri preifat. Os oes gennych e-sgwter, rydym yn argymell nad ydych yn dod ag ef i Gaerdydd. Ar hyn o bryd nid oes treialon o e-sgwteri rhent yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gwasanaethau bysiau a threnau ar gael yng nghanol y ddinas, ei maestrefi ac i wahanol leoliadau y tu allan i'r ddinas.

Teithio ar y bws

Mae darparwyr gwasanaeth bws lleol a chenedlaethol yn gwasanaethu'r campysau.

Llwybrau lleolTeithio CenedlaetholBws gwennol i'r maes awyr
Bws CaerdyddNational ExpressTraws Cymru
NATMegabusMaes awyr Caerdydd
Newport Bus (X30 drwy Parc y Mynydd Bychan) Maes awyr Bryste
Stagecoach  
Traws Cymru  

Cerdyn teithio

Gall pobl ifanc rhwng 16 a 21 wneud cais am FyNgherdynTeithio i gael gostyngiad o hyd at 30% ar gostau teithio ar fysiau yng Nghymru.

Teithio ar y trên

Mae Caerdydd Canolog yn ganolfan ar gyfer rhwydwaith trên yng Nghaerdydd, yn cysylltu'r ddinas gyda gweddill De a Gorllewin Cymru a prif ddinasoedd Prydeinig.

Mynediad campwsGorsaf agosafAmser cerdded
Ysgol Peirianneg (Adeiladau Trevithick a'r Frenhines), Tŷ McKenzie, Tŷ Eastgate, Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd, Neuadd GordonHeol y Frenhines CaerdyddTua 10 munud
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc Cathays (ac eithrio rhai sy'n agos i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd)CathaysTua 15-20 munud
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc y Mynydd BychanLefel isaf Y Mynydd Bychan a Lefel uchaf Y Mynydd BychanTua 20 munud

Gallwch gyfuno eich taith trên gyda defnydd am ddim o Ovo Bikes. Mae gorsafoedd llogi Ovo Bikes wedi'i lleoli yn/agos i'r gorsafoedd trên ac o amgylch nifer o adeiladau'r Brifysgol.

Ennill gwobrau am deithio llesol a chynaliadwy

Cymerwch ran yn her teithio cynaliadwy Newid Camau Caerdydd. Gallwch ennill BetterPoints am ddewis teithiau teithio llesol a chynaliadwy i'r campws ac oddi yno.

Am gymryd rhan bydd myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo â BetterPoints i'w defnyddio ar rai cynigion lleol gwych ar y campws, ar y stryd fawr a chyda darparwyr trafnidiaeth lleol. Mae llawer o wobrau i'w hennill hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Cewch ragor o wybodaeth am deithio’n gynaliadwy pan fydd gennych fynediad i'r fewnrwyd.