Sgiliau astudio academaidd

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig ystod eang o ddosbarthiadau, tiwtorialau ar-lein a mathau eraill o gymorth i'ch helpu i wella eich technegau astudio ac ysgrifennu yn ôl safonau prifysgol.
Rydyn ni eisiau i chi gaffael ar sgiliau astudio academaidd a’u datblygu er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau tra byddwch chi ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tua 100 dosbarth y flwyddyn
Mae tua 100 o ddosbarthiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr y gallwch chi ddewis o’u plith yn ôl eich anghenion.
Asesu eich sgiliau academaidd
Bydd ein hadnodd hunanasesu yn eich helpu i adnabod y sgiliau astudio y bydd gofyn ichi ganolbwyntio arnyn nhw hwyrach, ac mae’r pecyn yn eich cyfeirio at gymorth ychwanegol.
Modiwl Sgiliau Astudio Academaidd
Rydyn ni wedi creu modiwl ar-lein er mwyn i’n hadnoddau i gyd fod yn yr un lle. Gallwch chi ei gyrchu yn unrhyw le, ar unrhyw adeg.

Bydd ein tîm cyfeillgar yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau astudio academaidd, gan gynnwys ysgrifennu traethodau, darllen a meddwl yn feirniadol, gwneud nodiadau a rheoli eich aseiniadau'n effeithiol.
Ein hymrwymiad ichi yw eich annog, mewn cyd-destun cefnogol sydd hefyd yn cynnig her, i ddod yn ddysgwr annibynnol sydd â’r sgiliau y bydd eu cael er mwyn llwyddo.
"Mae'r dosbarthiadau rydw i wedi bod yn cymryd rhan ynddyn nhw (pump hyd yn hyn) wedi bod yn ardderchog. Rydw i wedi dysgu llawer ac mae wedi fy helpu i beidio â dychryn ar ôl gweld y llwyth gwaith!"
Manteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau
Bydd ein cymorth o ran sgiliau astudio yn eich helpu i:
- ddod o hyd i awgrymiadau ymarferol i wella eich sgiliau astudio
- dod yn fwy hyderus o ran eich aseiniadau
- datblygu i fod yn ddysgwr annibynnol
- ymuno â’n cymuned ddysgu
Myfyrwyr sy'n mentora
Caiff pob myfyriwr israddedig yn y flwyddyn gyntaf gael eu mentora gan fyfyriwr sy’n mentora, sef myfyriwr sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi. Byddan nhw’n gallu rhoi safbwynt y myfyriwr ichi ar ddysgu yn y brifysgol, eich ysgol academaidd a sut i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.