Ewch i’r prif gynnwys

Cyswllt dibynadwy

Beth yw cyswllt dibynadwy a pholisi'r brifysgol ar gysylltiadau dibynadwy.

Mae’r GIG ac asiantaethau statudol eraill yn gyfrifol am ddarparu gofal i’n myfyrwyr. Disgwylir y bydd myfyrwyr sy'n sâl yn ymgysylltu â'r asiantaethau hyn yn unol â'u hanghenion. Nid y brifysgol, fel darparwr addysg uwch, yw'r asiantaeth briodol ac nid oes ganddi'r arbenigedd na'r gallu i fonitro iechyd meddwl neu gorfforol myfyrwyr yn agos, nac i ddarparu gofal iechyd.  Fodd bynnag, os bydd y brifysgol yn dod yn ymwybodol bod myfyriwr yn sâl, a bod pryderon am ei les o ganlyniad i hynny, gallai geisio ymgysylltu â thrydydd partïon i fynd i’r afael â’r pryderon hynny lle bo’n briodol, fel y nodir yma.

Beth yw cyswllt dibynadwy?

Cyswllt dibynadwy yw rhywun y gall y brifysgol gysylltu ag ef os oes pryderon difrifol am iechyd neu les myfyriwr.

Cyswllt dibynadwy yw rhywun mae myfyriwr yn ei enwebu ac y mae’n ymddiried ynddo i drin gwybodaeth sensitif amdano. Efallai y bydd angen i gyswllt dibynadwy weithio gyda ni a gwasanaethau statudol/brys (e.e. gwasanaethau iechyd) i weithredu er lles y myfyriwr, er enghraifft os bydd yn mynd yn sâl.

Dylai'r myfyriwr esbonio i'w gyswllt dibynadwy y gallwn gysylltu ag ef os oes gennym bryderon difrifol am iechyd neu les y myfyriwr hwnnw. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw rhoi gwybod i'w gyswllt dibynadwy y mae wedi'i ddewis ar gyfer y rôl bwysig hon.

Pwy all gael ei enwebu fel cyswllt dibynadwy?

Rhaid i gyswllt dibynadwy fod dros 18 oed. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhiant, gwarcheidwad, partner neu aelod arall o'r teulu agos fydd y cyswllt dibynadwy. Gall fod yn rhywun arall, ond mae angen iddo fod yn rhywun bod y myfyriwr yn ymddiried ynddo.

Dylai cyswllt dibynadwy fod yn rhywun sy’n becso am y myfyriwr ac sy’n ymwybodol o’i hanes meddygol, ei hanes cymdeithasol a'i brofiadau bywyd. Dylai'r myfyriwr fod yn hyderus y bydd y cyswllt dibynadwy a enwebir ganddo yn parchu ei breifatrwydd, ac yn deall sut i ymdopi â chyfrifoldeb y rôl hon.

Ni ddylai cyswllt dibynadwy fod yn fyfyriwr arall ym Mhrifysgol Caerdydd nac yn aelod o staff, oni bai ei fod hefyd yn riant/gwarcheidwad/partner/aelod agos o'i deulu.

Pryd byddwn yn defnyddio’r wybodaeth am gyswllt dibynadwy?

Ni fyddwn fel arfer yn defnyddio cyswllt dibynadwy heb ganiatâd y myfyriwr dan sylw. Y cyswllt dibynadwy y byddwn yn ei ddefnyddio fydd y person a nodwyd yn fwyaf diweddar gan y myfyriwr, ac sy’n dal i fod wedi’i enwebu fel cyswllt dibynadwy i’r myfyriwr ar yr adeg y mae angen y cymorth. Os ydym am gysylltu â'r unigolyn hwn byddwn fel arfer yn trafod hyn ar y pryd gyda'r myfyriwr. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Os yw myfyriwr yn cytuno â gweithiwr cymorth myfyrwyr sy'n ei gefnogi ei fod yn dymuno i ni gysylltu â'i gyswllt dibynadwy;
  • Lle mae'r myfyriwr yn gofyn i aelod o staff gysylltu â'i gyswllt dibynadwy. Gall hyn fod oherwydd bod y myfyriwr yn sâl a/neu nad yw'n teimlo y gall gysylltu ag ef ei hun.

Drwy roi cyswllt dibynadwy i ni mae’r myfyriwr yn rhoi caniatâd i'r brifysgol gysylltu â'r unigolyn hwn mewn amgylchiadau fel y rhai a amlinellir yma. Gall myfyrwyr dynnu eu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy ddileu neu newid y cyswllt dibynadwy sydd wedi’i nodi yn y System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SIMS).

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio cyswllt dibynadwy heb ganiatâd penodol mewn amgylchiadau eithriadol lle mae gennym bryderon difrifol am les myfyriwr. Gallai enghreifftiau o amgylchiadau o'r fath gynnwys:

  • Pan fyddwn yn dod yn ymwybodol bod myfyriwr wedi cael ei anfon (neu’n mynd i gael ei anfon) i’r ysbyty oherwydd argyfwng;
  • Pan fydd myfyriwr wedi cael anaf difrifol (gallai hyn gynnwys hunan-niweidio; neu ddefnyddio cyfuniad neu lefel beryglus o gyffuriau a/neu alcohol);
  • Os bydd myfyriwr yn rhoi’r gorau i ymgysylltu â’i astudiaethau a/neu gymorth proffesiynol ac nad yw’n ymateb i nifer rhesymol o ymdrechion i gysylltu ag ef neu hi ynglŷn â hyn;
  • Os ydym wedi cael gwybod bod gan fyfyriwr salwch difrifol parhaus (corfforol neu feddyliol), a/neu os oes tystiolaeth y gallai ei iechyd fod yn dirywio;
  • Lle gall fod bygythiad i'r myfyriwr dan sylw, neu i rywun arall, o ganlyniad i weithredoedd y myfyriwr hwnnw;
  • Os oes risg i’r myfyriwr dan sylw, neu i rywun arall ac ni all y myfyriwr dan sylw roi caniatâd yn gorfforol neu'n gyfreithiol;
  • Er mwyn cymryd camau rhesymol i atal gweithred anghyfreithlon (e.e. niwed i rywun);
  • Lle mae angen gofal neu gefnogaeth ar fyfyriwr a bod peidio â’i chael yn effeithio ar ei les;
  • Pan fydd myfyriwr mewn perygl o niwed neu esgeulustod neu os yw eisoes yn profi niwed neu esgeulustod;
  • Os ydym yn meddwl na all myfyriwr amddiffyn ei hun rhag niwed, esgeulustod neu’r risg o hynny.

Nid yw’r rhestr hon yn un hollgynhwysfawr.

Bydd penderfyniad i gysylltu â chyswllt dibynadwy yn cael ei wneud mewn ymateb i risg sy’n dod i’r amlwg a gwybodaeth sydd ar gael i ni. Fel arfer bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan staff uwch priodol a/neu gymwys yn yr adran Bywyd Myfyrwyr.

A fydd gwybodaeth am gyswllt dibynadwy yn cael ei rhannu y tu allan i'r brifysgol?

Mae'r brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau statudol/brys, asiantaethau a sefydliadau trydydd parti eraill lle mae hyn yn helpu i gadw ein myfyrwyr, staff a'r gymuned yn ddiogel.  Gyda chaniatâd efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth am gyswllt dibynadwy ag asiantaethau perthnasol er mwyn iddo allu helpu i hwyluso'r broses o roi unrhyw gefnogaeth y gallai fod ei hangen ar y myfyriwr ar yr adeg honno.

Mae’n bosibl y bydd y brifysgol yn rhannu gwybodaeth am gyswllt ddibynadwy â’r gwasanaethau brys heb ganiatâd penodol myfyriwr os gofynnir iddi wneud hynny, os yw amgylchiadau’n cyfiawnhau hynny e.e., os ydym o’r farn bod hyn yn hanfodol neu’n bwysig er lles y myfyriwr, os gallai helpu i atal niwed i’r myfyriwr neu rywun arall, neu os gofynnir am y wybodaeth fel rhan o ymchwiliad yr heddlu neu os gallai fod yn ddefnyddiol i'r gwasanaethau brys at ddiben derbyn y myfyriwr i'r ysbyty.

A oes rhaid rhoi cyswllt dibynadwy?

Nid oes gofyniad cyfreithiol ar fyfyrwyr i roi gwybodaeth i ni am gyswllt dibynadwy. Argymhellir yn gryf y dylai pob myfyriwr enwebu cyswllt dibynadwy.

A yw myfyrwyr yn gallu newid eu cyswllt dibynadwy?

Mae'n bwysig bod pob myfyriwr yn cymryd cyfrifoldeb dros fanylion ei gyswllt dibynadwy a’i fod yn eu hadolygu'n rheolaidd. Gall myfyrwyr newid eu henwebiad unrhyw bryd.