Defnyddio eich porth SIMS ar-lein
Diweddarwyd: 20/07/2022 14:17
Gwybodaeth am eich porth ar-lein System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SIMS), gan gynnwys sut i gael mynediad ato a beth i'w wneud os na allwch fewngofnodi.
Mae eich porth SIMS ar-lein yn caniatáu ichi:
- cofrestru ar-lein cyflawn
- dewis modiwlau
- gofyn am newidiadau i'ch rhaglen astudio
- cadw eich manylion personol
- mynediad at hanes academaidd
- profi eich statws myfyriwr a thalu ffioedd dysgu.
Mae'n bwysig eich bod yn cadw'ch manylion yn gywir ac yn gyfredol ar SIMS a rhoi gwybod i'r brifysgol am unrhyw newidiadau.
Mae eich data a gedwir ar SIMS wedi’i ddiogelu gan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mynediad i SIMS
Methu mynd ar wefan SIMS
Gwnewch yn siŵr eich bod yn teipio’r URL - http://sims.cf.ac.uk - i’r bar cyfeiriad ar frig eich sgrin ac nid i beiriant chwilio (er enghraifft Google).
Os ydych yn ceisio ymweld â SIMS y tu allan i’ch cartref - er enghraifft, yn eich gwaith - mae’n bosibl ei fod wedi cael ei rwystro gan y sefydliad. Cysylltwch â'ch gweinyddwr rhwydwaith am gyngor.
Methu mewngofnodi
Wedi anghofio’r cyfrinair
Os ydych yn fyfyriwr newydd, byddwn wedi rhoi cyfrinair i chi yn y cam ymgeisio ac yna gofyn i chi newid y cyfrinair i rywbeth mwy cofiadwy.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair , efallai eich bod wedi llenwi cwestiynau diogelwch a fydd yn caniatáu i chi ailosod eich cyfrinair. Fel arall, ar y sgrin mewngofnodi i SIMS, gallwch glicio ar y ddolen 'wedi anghofio'ch cyfrinair' i ddewis anfon cod ailosod i'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn symudol sydd wedi'i gofnodi ar SIMS yn dilyn eich cais.
Ni ddylech rannu eich manylion mewngofnodi na'ch cyfrineiriau â phobl eraill.
Ateb y cwestiynau diogelwch yn gywir
Os ydych wedi cyflwyno eich enw a’ch cyfrinair yn llwyddiannus, ond yn methu ag ateb y cwestiynau diogelwch, gwiriwch eich bod yn nodi’r rhif myfyriwr cywir (i’w gael ar frig unrhyw gyfathrebu’n ymwneud â chofrestru).
Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich dyddiad geni yn y fformat dd/mm/bbbb.
Nid yw eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gweithio
Gwiriwch eich bod yn teipio eich enw a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd yn y meysydd cywir. Os bydd neges camgymeriad yn ymddangos, gwnewch nodyn o hyn os byddwch angen cysylltu â ni am help.
Dal i gael trafferth?
Os oes gennych gwestiynau ynghylch cofrestru ar-lein – naill ai o ran mynd ar SIMS neu o ran cywirdeb data - cysylltwch â’r tîm Cofrestru drwy Cyswllt Myfyriwr neu dros y ffôn. Os yn bosib, gwnewch nodyn o unrhyw negeseuon gwall y byddwch yn eu derbyn.
Ymholiadau ymrestru
Os yw eich ymholiad yn gysylltiedig â ffioedd, cysylltwch â'r tîm Cyllid.
Ymholiadau ffioedd dysgu gan fyfyrwyr
Mae cofrestru ar-lein yn orfodol, ac rydym yn argymell eich bod yn ei gwblhau cyn i chi gyrraedd yng Nghaerdydd - ond os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur neu yn methu mynd ar-lein, gallwch gofrestru wrth i chi gyrraedd yn y Brifysgol yn un o'n lleoliadau cofrestru lle bydd staff ar gael i helpu.
Gallwch wneud hyn wrth bwynt casglu Carden Adnabod Myfyriwr.