Gwasanaethau Cymorth Arbenigol
Diweddarwyd: 09/08/2023 15:30
Os argymhellir i chi gael gwasanaeth cefnogaeth arbenigol fel addasiad rhesymol gan y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr neu'n dilyn eich asesiad anghenion DSA, gallwn ddarparu'r gwasanaeth i chi drwy ein gwasanaethau mewnol.
Gweithiwr cymorth
Mae gennym dîm o weithwyr cymorth sy'n gallu gweithio gyda chi i'ch cynorthwyo gydag ystod o weithgareddau'n gysylltiedig ag astudiaethau, fel:
- cymryd nodiadau mewn darlithoedd
- eich cyfeirio neu eich helpu i symud o amgylch y campws
- cymorth gyda dosbarthiadau labordy neu ymarferol
- gwasanaeth llyfrgell.
Tiwtora sgiliau astudio
Mae gennym dîm o diwtoriaid sgiliau astudio arbenigol sy’n gallu cynnig cefnogaeth sgiliau astudio i chi. Mae'r gefnogaeth mae ein tiwtoriaid n cynnig yn canolbwyntio ar gynnig y sgiliau sy'n gysylltiedig ag astudio canlynol:
- sgiliau trefnu a rheoli amser
- technegau gwneud nodiadau a chofio
- sgiliau ymchwil
- ysgrifennu academaidd
- sillafu a gramadeg
- strategaethau adolygu
- sgiliau cyflwyno
- dysgu annibynnol.
Gwasanaeth mentora iechyd meddwl
Mae ein mentoriaid yn gweithio gyda chi i reoli eich gofynion sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau a allai gael eu heffeithio gan effaith eich cyflwr iechyd meddwl. Mae'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan ein mentorau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio sy'n cwmpasu'r canlynol:
- oedi
- perffeithiaeth
- cymhelliant
- canolbwyntio
- dysgu annibynnol
- ymdopi â newid.
Gwasanaethau arbenigol eraill
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer DSA ond bod angen gwasanaethau arbenigol eraill arnoch megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL), byddwn yn eich cefnogi gyda'r cyllid a mynediad at y gwasanaethau hyn.
Efallai fydd eich Cynghorydd Anabledd argymhell gwasanaethau nad ydynt wedi'u hariannu gan DSA. Os fydd hyn yn digwydd, bydd y Brifysgol yn gyfrifol am y costau.
Os yw'ch cynghorydd wedi argymhell gwasanaethau gyda darparwyr allanol, fydd angen i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Os gewch chi unrhyw broblemau wrth gysylltu â'r darparwyr hyn neu drefnu'r ddarpariaeth, rhowch wybod i ni er mwyn i ni gael rhoi cymorth i chi gael cysylltu.
Cysylltwch â ni
Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, gallech fod yn gymwys ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) fydd yn helpu i ariannu eich cymorth anabledd.