Dywedwch wrthym am eich gofynion mynediad.
Dywedwch wrthym am eich gofynion mynediad.
Weithiau gall sefydlu cymorth gymryd rhagor o amser na'r disgwyl, felly rydym yn eich annog i ddweud wrthym am eich anabledd cyn gynted â phosibl.
Os gwnaethoch ddweud wrthym am anabledd drwy eich ffurflen gais neu pan wnaethoch gofrestru, bydd ein Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr yn cysylltu â chi i gael gwybod rhagor am eich gofynion cymorth. Gall ein cynghorwyr anabledd drafod unrhyw effaith bosibl ar eich astudiaeth, eich cynghori ar sut i gael gafael ar gymorth a chytuno ar y camau nesaf.
Os nad ydych wedi clywed gan y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr eto, rydym yn eich annog i gysylltu trwy Cyswllt Myfyrwyr. Os na fu’n bosib i chi ddefnyddio’r cyfleoedd hyn, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau.
Darparu tystiolaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu amgylchedd dysgu cynhwysol ac i wneud addasiadau rhagweledol rhesymol lle y bo’n bosibl. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwneud rhai addasiadau rhesymol unigol er mwyn i'ch gofynion cymorth gael eu bodloni.
Er mwyn ein helpu i wneud hyn rydym yn eich annog i ddweud wrthym am eich gofynion mynediad. Gofynnir i chi roi'r dystiolaeth ategol ddiweddaraf i ni, megis:
- Tystiolaeth ddiagnostig e.e., adroddiad asesiad diagnostig neu adroddiad seicolegydd addysg ar gyfer myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol
- Tystiolaeth feddygol e.e. llythyr gan Feddyg Teulu neu Ymgynghorwyr
- Adroddiad yn dilyn Asesiad Anghenion ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
- Copi o lythyr dyfarniad Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae angen y dystiolaeth hon i gadarnhau'r angen am rai addasiadau a chymorth a ariennir. Os nad oes gennych dystiolaeth neu os ydych yn ansicr a yw'n addas, cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr am gyngor ynghylch cyflwyno rhagor o wybodaeth.
Os dewiswch beidio â chofrestru gyda'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr
Mae rhai myfyrwyr yn dewis peidio â chysylltu gyda'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr, ond yna’n sylwi bod angen cyngor a chymorth arnynt pan fydd eu hastudiaethau’n dechrau. Os byddwch yn cael eich hun yn y sefyllfa hon, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynorthwyo cyn gynted â phosibl; byddwch yn ymwybodol y gallai hysbysu’n hwyr achosi oedi wrth roi’r cymorth ar waith.