Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth yn y llyfrgell

Diweddarwyd: 09/08/2023 15:29

Mae gan bob un o'n llyfrgelloedd gyswllt anabledd penodol fydd yn hapus i drafod pa wasanaethau sydd ar gael.

Gall staff eich helpu chi i ddod o hyd i lyfrau a'u casglu ar eich rhan. Gallant hefyd chwilio'r catalog llyfrgell, trefnu dosbarthu eich llyfrau i'ch cartref a chanfod ffurfiau amgen o wybodaeth.

Mae pob un o'r llyfrgelloedd yn cynnig offer cynorthwyol ychwanegol megis:

  • bysellfyrddau a llygod gwahanol
  • chwyddwyr fideo
  • desgiau y gellir addasu eu huchder

Mae hefyd nifer o raglenni meddalwedd cynorthwyol drwy cyfrifiaduron rhwydwaith y campws i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.

Benthyciadau llyfrgell estynedig

Mae gan rai myfyrwyr hefyd hawl i ddefnyddio gwasanaeth benthyciadau estynedig y llyfrgell fel addasiad rhesymol. Mae’n golygu pan fyddwch yn benthyg llyfrau o’r llyfrgell, a phan fyddwch yn eu hadnewyddu, fod y cyfnodau benthyg undydd, tridiau, wythnos a phythefnos yn cael eu dyblu’n awtomatig.

Byddwch yn ymwybodol na fydd eitemau benthyciad pedair wythnos yn cael eu hymestyn.

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr