Cefnogaeth wrth eich Ysgol Academaidd
Diweddarwyd: 05/07/2023 08:54
Gallwn wneud addasiadau rhesymol fel trefniadau ar gyfer arholiadau ac addasiadau rhesymol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau.
Mae Ysgolion academaidd wedi nodi aelodau o staff yn Gysylltiadau Anabledd i fod yn bwynt cyfeirio i ymholiadau myfyrwyr am y rhaglenni astudio a’r cymorth academaidd sydd ar gael.
Addasiadau rhesymol
Mae'r mathau o addasiadau rhesymol rydym wedi’u trefnu i’n myfyrwyr o flaen llaw yn cynnwys:
- sleidiau darlithoedd neu daflenni o flaen llaw
- deunyddiau cwrs mewn fformat amgen (e.e. print bras neu bapur lliw)
- mynediad at ddarlithoedd neu ganiatad i'w recordio
- gwneud cyflwyniadau i grwpiau llai
- trefniadau cefnogi ar gyfer sesiynau ymarferol neu labordy a theithiau maes
- trefniadau arholiad fel amser ychwanegol a seibiannau gorffwys.
Cysylltwch â ni
Os oes angen y math hwn o ddarpariaeth arnoch chi, cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr am ragor o fanylion.