Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth yn y Llyfrgell

Rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth anabledd sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd.

Mae gan bob un o'n llyfrgelloedd gyswllt anabledd penodol fydd yn hapus i drafod pa wasanaethau sydd ar gael.

Gall staff eich helpu chi i ddod o hyd i lyfrau a'u casglu ar eich rhan. Gallant hefyd chwilio'r catalog llyfrgell, trefnu dosbarthu eich llyfrau i'ch cartref a chanfod ffurfiau amgen o wybodaeth.

Mae rhai llyfrgelloedd yn cynnig offer cynorthwyol ychwanegol megis:

  • Bysellfyrddau a llygod gwahanol
  • Chwyddwyr fideo
  • Desgiau y gellir addasu eu huchder

Mae hefyd nifer o raglenni meddalwedd cynorthwyol drwy cyfrifiaduron rhwydwaith y campws.

Benthyciadau llyfrgell estynedig

Mae gan rai myfyrwyr hefyd hawl i ddefnyddio gwasanaeth benthyciadau estynedig y llyfrgell fel addasiad rhesymol. Mae’n golygu pan fyddwch yn benthyg llyfrau o’r llyfrgell, a phan fyddwch yn eu hadnewyddu, fod y cyfnodau benthyg undydd, tridiau, wythnos a phythefnos yn cael eu dyblu’n awtomatig.

Cofiwch nad yw benthyciadau am gyfnodau pedair awr na phedair wythnos yn cael eu dyblu.

Rhagor o wybodaeth

Cefnogaeth anabledd