Iechyd galwedigaethol
Gan fod eich iechyd a lles yn hanfodol bwysig i'ch gyrfa yn y dyfodol, bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol cyn y bydd modd i chi fynd ar leoliad clinigol.
Dilynwch y camau isod i sicrhau eich bod yn barod o ran eich iechyd i fynychu'ch lleoliad clinigol.
1 - Cwblhau holiadur cyn y cwrs
Ar ôl i chi dderbyn cynnig mae angen i chi gwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol cyn dilyn y cwrs.
Ar gyfer y cyrsiau priodol sy'n ymwneud â iechyd, byddwch yn derbyn dolen i feddalwedd glinigol Iechyd Galwedigaethol Myfyrwyr o'r enw 'Cohort', gyda chyfarwyddiadau am gofrestru a sut i gwblhau'r dogfennau priodol.
Mae’r ddolen yn gofyn am eich “Ysgol” - nodwch yr eich cod ysgol yn y tabl canlynol.
Rhaglen | Cod ysgol |
---|---|
Nyrsio Oedolion | NURSE - Adult |
Nyrsio Plant | NURSE - Child |
Nyrsio Iechyd Meddwl | NURSE - MH |
Dychwelyd i ymarfer | NURSE - RTP |
Bydwreigiaeth | MIDWIFERY |
Ffisiotherapi | PHYSIO |
Therapi Galwedigaethol | OT |
Radiotherapi ac Oncoleg | RADIOG-RADIOTHERAPY |
Radiograffeg a Delweddu Diagnostig | RADIOG-DIAGNOSTIC |
Ymarfer Gofal Llawdriniaethol | ODP |
Unwaith y byddwch wedi dechrau llenwi’r holiadur bydd gennych 14 diwrnod i’w gyflwyno neu bydd y ddolen yn dod i ben.
Gallwch arbed yr holiadur, bydd yn aros ar ffurf drafft a gellir ei ddiweddaru. Fodd bynnag, unwaith i chi ei gyflwyno nid oes modd ei newid.
Yn ddelfrydol, dylai fod gennych gopi wedi’i sganio o’ch gwybodaeth am frechiadau cyn i chi ddechrau cwblhau eich holiadur.
2 - Derbyn rhestr brechiadau wrth eich Meddyg Teulu
Caiff eich hanes o ran brechiadau ei adolygu fel rhan o’ch Asesiad Iechyd Galwedigaethol. Mae’n hanfodol eich bod yn darparu eich cofnodion mwyaf cyfredol o ran brechiadau er mwyn llywio penderfyniadau ynglŷn â lleoliad clinigol, elfen allweddol o’ch cwrs gradd.
Lleoedd a all gadw gwybodaeth am frechiadau rydych wedi’u cael (mae’n bosib y bydd tâl):
- eich Practis Meddyg Teulu cofrestredig (os ydych newydd gofrestru mewn practis, cysylltwch â’ch un blaenorol).
- adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr blaenorol.
- clinigau teithio yr aethoch iddynt ar gyfer brechiadau ‘gwyliau’.
- Iechyd Plant o'r ardal lle'r oeddech yn blentyn. Os nad ydych yn siŵr, gallwch gysylltu â Iechyd Plant Caerdydd ar +44 (0)29 2183 2077 a byddwn yn eich cynorthwyo.
Efallai fydd cost ar gyfer mynediad.
Os na allwch gael eich gwybodaeth am frechiadau cyn cyflwyno’r holiadur, ebostiwch y wybodaeth cyn gynted â phosibl i studenthealth@caerdydd.ac.uk gyda:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- y cwrs rydych yn bwriadu ei astudio.
3 - Nyrs Iechyd Galwedigaethol
Ar eich diwrnod cyntaf, byddwch yn cael apwyntiad i fynychu ymgynghoriad gyda nyrs o'r adran iechyd galwedigaethol.
Bydd y cynghorydd iechyd galwedigaethol yn gwirio'r brechiadau rydych eisoes wedi eu derbyn yn erbyn rhestr o frechiadau sydd angen i chi i'w cael cyn y gallwch chi fynd ar leoliad clinigol. Os oes rhai yn eisiau gyda chi, yna byddwn yn rhoi apwyntiad (au) pellach i chi gael y brechiadau. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'r apwyntiadau hyn oherwydd os nad ydych yn ymgymryd â brechlynnau a phrofion gwaed, gall hyn effeithio'ch lleoliad clinigol.
Lleoliad Clinigol
Unwaith eich bod chi wedi mynychu eich holl apwyntiadau, bydd Iechyd Galwedigaethol yn anfon cadarnhad i ni fod eich brechiadau oll yn gyfredol a'ch bod yn gymwys i fynychu'ch lleoliad clinigol.
Os nad ydych chi'n cael eich holl frechiadau, bydd Iechyd Galwedigaethol yn rhoi gwybod i'r Adran nad ydych wedi derbyn cymeradwyaeth i fynd ar leoliad clinigol.