Ewch i’r prif gynnwys

Hanes

History video

Nid yn unig yw astudio Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymwneud  â'ch dyfodol, ond gyda'r gorffennol rydym yn ei rannu.

Mae academyddion blaenllaw wedi creu modiwlau yn seiliedig ar eu hymchwil arloesol. Mae ein cyrsiau yn archwilio hanes ystod eang o wledydd ledled y byd ac ar draws ystod gronolegol enfawr, yn ymestyn o Groeg a Rhufain Hynafol hyd at hanes cyfoes.

Wrth wneud defnydd helaeth o ddogfennau gwreiddiol a gweithredu ag arloesedd gwybodaeth hanesyddol, gall astudiaeth myfyrwyr amrywio o bynciau fel caethwasiaeth yn America modern i ddiplomyddiaeth yn Ewrop yr Oesoedd Canol i ddewiniaeth ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Wrth ennill sgiliau hanesydd, mae myfyrwyr hefyd yn ennill sgiliau trosglwyddadwy amhrisiadwy a werthfawrogwyd ar draws bob sector, gan gynnwys y gyfraith, busnes, y cyfryngau a gwleidyddiaeth.

Mae ein myfyrwyr yn datblygu hyder er mwyn gallu gweithio'n annibynnol, meddwl yn greadigol a chyfleu eu syniadau yn argyhoeddiadol.

Archwilio'r Gorffennol

Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg, fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am: Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.