Ewch i’r prif gynnwys

Hanes yr Henfyd

Ancient History video

Dewch i archwilio hanes, cymdeithas a diwylliant byd y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, a chyfnodau'r Oes Efydd i'r Ymerodraeth Bysantaidd.

Mae effaith yr hen wareiddiadau yma'n dal i'w gweld mewn nifer o ddiwylliannau modern, yn llywio cymdeithasau Ewropeaidd ac eraill heddiw.

Byddwch yn defnyddio deunydd ffynonellau gwreiddiol er mwyn dysgu am hanes yr henfyd: hen lenyddiaeth sy'n amrywio o gerddi epig i areithiau cyfreithiol i gofnodion hanesyddol a llythyrau preifat; arysgrifau a papyri; a deunydd archaeolegol fel ceft, pensaernïaeth, claddedigaethau a data arolygon.

Cyrsiau amser llawn

Archwilio'r Gorffennol

Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg, fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am: Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.