Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio modiwlau israddedig yn gyflawn ac yn rhannol yn Gymraeg.

Ar gyfer israddedigion

Opsiynau Cymraeg ar gael ar gyfer nifer o fodiwlau craidd a dewisol, ond mae’r ddarpariaeth ar gyfer modiwlau dewisol yn dibynnu ar alw ac argaeledd staff.

Ar gyfer modiwlau craidd, mae grwpiau seminar cyfrwng Cymraeg ar gael, a bydd y darlithoedd yn Saesneg. Mae ein darpariaeth Gymraeg graidd yn cynnwys y canlynol fel arfer:

  • HS1107 Hanes ar Waith (35% yn Gymraeg)
  • HS1701 Dulliau Trafod Hanes (35% yn Gymraeg)
  • HS1702 Archwilio Dadl Hanesyddol (100% yn Gymraeg)
  • HS1801 Traethawd Estynedig (100% yn Gymraeg)

Ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs israddedig

Gallwch ddewis modiwlau lle mae seminarau cyfrwng Cymraeg ar gael yn rhan o’r ddarpariaeth. Rydym fel arfer yn cynnig seminarau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y modiwlau canlynol:

  • HS1109 Dyfeisio Cenedl: Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Threftadaeth
  • HS1119 Hanes ar Waith, Rhan 1: Cwestiynau, Fframweithiau a Chynulleidfaoedd
  • HS1120 Hanes ar Waith, Rhan 2: Ffynonellau, Tystiolaeth a Dadl

Mae eich grŵp seminar yn cwrdd bob pythefnos ar gyfer pob un o’r modiwlau hyn. Yn eich dosbarthiadau byddwch yn trafod pynciau penodol sy’n rhan annatod o brif themâu’r modiwl. Cewch hefyd y cyfle i fireinio eich sgiliau cyffredinol ar gyfer astudio a dysgu hanes.

Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn academaidd

Mae seminarau cyfrwng Cymraeg ar gael ar gyfer y modiwl craidd 'Approaches to History' (HS1701). Mae’r cwrs hwn yn ofynnol i fyfyrwyr gradd Anrhydedd Sengl yn eu hail flwyddyn sy’n astudio Hanes, a Hanes gyda Hanes Cymru. Mae’n ddewisol i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio Gradd Hanes Cydanrhydedd.

Gan ddibynnu ar alw ac argaeledd staff, rydym hefyd yn cynnig modiwlau dewisol ar gyfer israddedigion yr ail a’r drydedd flwyddyn, sydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl. Efallai cynhelir darlithoedd a seminarau yn Gymraeg ar gyfer y modiwlau canlynol:

  • HS1757 Diwydiannaeth, Radicaliaeth a’r Bobl Gyffredin yng Nghymru
  • HS1704 Hanes wedi’i Gyd-weu: Cymru a’r Byd 1714–1858
  • HS1862 Llafur, Sosialaeth a Chymru 1880–1979 (100% yn Gymraeg)
  • HS1857 Cymru, Mudiad Diwygio Lloegr a Chwyldro Ffrengig 1789

Astudio annibynnol

Ym mlynyddoedd 2 a 3, gallwch hefyd ddewis astudio modiwlau astudio annibynnol HS1702 a HS1801 yn Gymraeg.

Asesir HS1702 'Archwilio Dadl Hanesyddol' drwy draethawd 6,000 o eiriau. Byddwch yn dewis y pwnc, yna dyrennir cynghorydd i’ch tywys drwy'r broses o wneud ymchwil ar gyfer eich traethawd a’i ysgrifennu mewn pedwar cyfarfod dros y flwyddyn.

Mae HS1801, eich 'Traethawd Blwyddyn Olaf', yn draethawd 8,000-10,000 o eiriau. Ar ei gyfer, byddwch yn ymchwilio pwnc sy'n ymwneud ag un o’ch modiwlau dewis arbennig, gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd a gwreiddiol. Bydd goruchwylydd yn cael ei ddyrannu i chi, y byddwch yn cwrdd ag ef/hi bedair gwaith y flwyddyn. Bydd eich goruchwylydd yn eich tywys drwy brosesau ymchwilio, cynllunio ac ysgrifennu.

Cysylltwch â ni

I gael gwybodaeth bellach am y ddarpariaeth Gymraeg, cysylltwch â’r:

Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones

Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones

Professor in Ancient History

Siarad Cymraeg
Email
llewellyn-jonesl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5652