Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn ganolfan ragoriaeth sydd ag enw rhyngwladol am ein hymchwil ac am ein dysgu. Rydym yn ymroi i astudio'r gorffennol a chredoau o'r cyfnod cynhanes i'n cymdeithasau cyfoes.

Gall ein cymuned ymfalchïo mewn dros 70 o staff academaidd a 1000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Rydym yn ymdrechu i ddarparu addysg ragorol ar bob lefel, o'r rhai sy'n dymuno ailymuno ag addysg drwy ein Llwybrau, i'n myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhyngwladol. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau arbenigol ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn cadwraeth archaeolegol a chaplaniaeth.

Rydym yn ymfalchïo yn y gwreiddiau dwfn sydd gennym yn ein cymuned leol yng Nghymru, gyda chysylltiadau yn y sector treftadaeth, yn arbennig ein partneriaeth sefydledig gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Caiff y gwreiddiau hyn eu hadlewyrchu hefyd ar draws y sbectrwm o gredoau'r byd sydd i'w canfod yn ein prifddinas gosmopolitan; man cyfarfod i amrywiaeth eang o ddinasyddion yn sgil ei hanes diwydiannol a morol. Rydym yn cydweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau diwinyddol Athrofa Padarn Sant a Choleg Bedyddwyr De Cymru.

Mae ein hamrywiaeth yn arwain at effaith bellgyrhaeddol ein hymchwil. Mae ein cadwraethwyr wedi achub yr SS Great Britain rhag effeithiau dinistriol rhwd. Ac mae ein hymchwil wedi ein helpu i ddeall sut y mae hunaniaeth mewnfudwyr i Gymru'n newid wrth iddynt addasu i ddiwylliannau Cymru. Rydym wedi cyflwyno'r anghenion tystiolaeth i wella gofal bugeiliol i Fwslimiaid.