Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Rydym yn cynnig ystod lawn o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a ddysgir ac ymchwil ôl-raddedig, yn ein prif ddisgyblaethau, sef Hanes yr Henfyd, Archaeoleg, Hanes, Cadwraeth ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae ein myfyrwyr yn ffurfio eu hastudiaethau eu hunain i raddau helaeth, diolch i'r dewis eang o fodiwlau sydd ar gael ac i hyblygrwydd o fewn a rhwng disgyblaethau. Maent yn cael y cyfle i weithio gydag ac i gael eu dysgu gan ysgolheigion o fri.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn dysgu'r sgiliau ymarferol a damcaniaethol sydd eu hangen i lwyddo yn yr yrfa o'ch dewis. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd, sydd wedi ei lunio'n bwrpasol i ateb eich anghenion, wrth law drwy gydol eich cwrs gradd i gynnig cyngor a chymorth arbenigol i chi.

Israddedig

Mae’r Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymroi i astudio’r gorffennol a chredoau, o’r cyfnod cynhanes hyd at gymdeithasau cyfoes. Rydym yn rhoi pwyslais ar ein prif ddisgyblaethau: Hanes yr Henfyd, Archeoleg, Cadwraeth, Hanes a Hanes Cymru ac Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol.

Ôl-raddedig a addysgir

Dilynwch eich diddordebau o fewn eich pwnc mewn Ysgol uchel iawn ei pharch gydag adnoddau rhagorol a llu o arbenigwyr academaidd sy’n flaenllaw yn eu meysydd.

Ymchwil Ôl-raddedig

Rydym yn cynnig cyfleoedd PhD/Mphil mewn Hanes, Hanes yr Henfyd, Archaeoleg, Cadwraeth ac Astudiaethau Crefyddol a diwinyddiaeth.

Cyfleoedd yn y Gymraeg

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hysgol. Mae llawer o'n myfyrwyr a'n staff yn siarad Cymraeg, ac mae nifer o'n hacademyddion yn cyhoeddi eu hymchwil yn Gymraeg.

Cronfa Goffa Cyril Fox - grantiau Archaeoleg

Mae Cronfa Goffa Cyril Fox yn cefnogi grantiau teithio ar gyfer myfyrwyr Archaeoleg.