Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Ôl-raddedig

Mae ein myfyrwyr PhD a MPhil yn ymuno â chymuned academaidd ac ymchwil bywiog, gydag arolygiad gan arbenigwyr yn eu maes.

Croeso i fyd o ysgolheictod ymarferol a phrentisiaeth gefnogol a heriol mewn ymchwilio ar sail tystiolaeth.

Rydym yn credu'n gryf mewn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion i gyfrannu at eu disgyblaeth, a'r byd ehangach a hynny ar y lefel uchaf.

Mae ein ffordd o ddysgu'n ddi-os yn un sy'n rhoi pwyslais ar ddull crefftwrol a phroffesiynol. Paratowch eich hun ar gyfer bywyd gwaith sy'n mynnu meddwl trylwyr a mynegiant eglur.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn amgylchedd ymchwil a dysgu gyda'r adnoddau safonol, sy'n amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol o ran agwedd ac ymarfer. Byddwn yn eich helpu i ymchwilio ac i rannu eich angerdd at gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

PhD/MPhil

Rydym wedi ymrwymo i ymchwil ymarferol gyda phwyslais clir ar sgiliau ymchwil craidd, boed hwy'n archifol, mewn labordy, yn ieithyddol neu yn y maes.

Mae yna wahanol opsiynau astudio ar gael:

  • 1-2 flynedd MPhil
  • 3 blynedd llawn amser PhD
  • 5 mlynedd rhan amser PhD

Themâu Ymchwil

Mae staff a myfyrwyr yn gwneud ymchwil mewn nifer o themâu rhyngddisgyblaethol:

Mae'r Ysgol yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr sydd yn cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.