Ewch i’r prif gynnwys

Datgloi darluniau hanesyddol trwy archifau digidol

Mae agor casgliadau pwysig yn golygu rhannu genres cyfan gyda chynulleidfaoedd newydd.

Yn ei hymchwil ar y croestoriad rhwng y byd digidol ac Astudiaethau Darlunio, nododd yr Athro Llenyddiaeth Saesneg Julia Thomas fod llawer o ddarluniau hanesyddol mewn llyfrau wedi diflannu o olwg y cyhoedd, er gwaethaf y cynnydd mewn digido casgliadau ac archifau amgueddfeydd ac orielau.

Ynghanol y risg gynyddol y gallai genres cyfan o ddelweddau artistig, addysgol ac addysgiadol fynd ar goll, mae’r Athro Thomas wedi llwyddo i greu dwy archif ar-lein ddeinamig wedi'u neilltuo i ddarluniau: Cronfa Ddata Darlunio Canol Oes Fictoria (DMVI) a'r Archif Darluniau (IA), a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Mae dros filiwn o ddarluniau sydd yng nghasgliadau llyfrau gwych Prifysgol Caerdydd bellach ar gael i unrhyw un sydd â chyswllt a'r rhyngrwyd eu gweld.

Trwy ddull newydd o wneud lluniau yn chwiliadwy, mae'r ddwy archif nodedig hyn wedi llwyddo i ddatgloi mynediad at ôl-gatalog y byd o ddarluniau llyfrau.

Mae’r archif yn gam enfawr i ddod â darluniau coll ac anghofiedig yn ôl i sylw ysgolheigion cyfoes a’r cyhoedd yn gyffredinol… Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd cronfeydd data digidol wrth adfer hanes coll a bywgraffiadau anghofiedig darlunwyr unigol, yn enwedig darlunwyr benywaidd.
Kate Holterhoff & Nicole Lobdell Astudiaethau Rhywedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Gweithredu â ffocws

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol.

1. Cydnabod arwyddocâd darluniau hanesyddol a'u hanweledigrwydd cyfoes

Gyda darluniau'n arwyddocaol yn ddiwylliannol ond 'ar goll' mewn ffurfiau print a digidol, mae'r Archif Darluniau'n mynd i'r afael â'r ffaith nad oes modd deall y 'byd darluniadol' hwn o'r gorffennol oni bai bod y delweddau ar gael i'r cyhoedd.

2. Creu cronfeydd data arbenigol o ddarluniau gyda metadata digonol ar gyfer chwilio ac adalw

Mae'r prosiect wedi llwyddo i adeiladu ymchwil bwrpasol ar gyfer seilwaith a methodolegau a all ddadansoddi a chwilio darluniau, gan gynnwys dadansoddiadau tagio delweddau pwerus.

3. Cyflwyno tagio delweddau torfol fel dull o ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau effaith

Gan lywio drwy 'wleidyddiaeth torfoli' gydag ymagwedd egalitaraidd, mae'r prosiect yn rhoi gwerth ar gyfraniad 'anarbenigol' y cyhoedd, gan greu seilwaith torfol pwrpasol sy'n gwerthfawrogi pob cyfraniad, ac yn hwyluso adeiladu casgliadau di-rif yn debyg i gynnal arddangosfeydd personol.

4. Defnyddio dulliau digidol i wella dealltwriaeth o ddarluniau

Drwy alluogi'r cyhoedd i dagio delweddau, mae'r Archif wedi dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, gan gefnogi dealltwriaeth ddyfnach o ddarluniau a chreu gwell gwerthfawrogiad o le, hanes a diwylliant.

Harneisio pŵer delweddau'n ddigidol

Mae'r prosiect wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer ailddefnyddio darluniau'n greadigol gyda defnyddwyr yn amrywio o guraduron amgueddfa, athrawon a llyfrgellwyr i gyhoeddwyr, gwneuthurwyr ffilm a chynhyrchwyr teledu.

Mae wedi dylanwadu ar ymddygiad a chanfyddiad defnyddwyr drwy dagio torfol. Daw defnyddwyr yr archif yn ddinasyddion-guraduron, gan gydnabod eu gallu i dagio delweddau er budd y cyhoedd.

Hefyd, mae'r prosiect wedi sicrhau newidiadau mewn arferion addysgu rhyngwladol a dealltwriaeth addysgol. Mae athrawon yn fyd-eang yn defnyddio'r llwyfannau'n rheolaidd, o gyn belled ag Awstralia, India ac UDA. Mae addysgwyr wedi ymgorffori mwy o ddarluniau yn eu haddysgu gyda mwy o ymgysylltu.

Yn olaf, mae'r prosiect wedi siapio dulliau seilwaith digidol. Mae offer, dulliau a strwythurau'r prosiect wedi dod yn fodel ar gyfer seilwaith o adnoddau darluniau digidol eraill ledled y byd. Mae'r system bwrpasol o allweddeiriau wedi gwneud nifer cynyddol o gasgliadau archifol yn chwiliadwy yn ôl cynnwys eiconograffig a phwnc am y tro cyntaf.

Mae tudalennau printiedig y 19eg ganrif yn llawn delweddau hynod, os gallwn ddod o hyd iddynt. Mae'r Archif Darluniau'n gosod miliwn ohonynt o fewn cyrraedd. Rhyfeddol.
Quentin Blake Darlunydd

Mynediad byd-eang, arwyddocâd byd-eang

Ledled y byd, mae’r archifau ar-lein wedi arwain at newidiadau mewn arferion addysgu a’n dealltwriaeth o’r gwrthrychau materol hyn sydd heb eu defnyddio'n llawn. Maent wedi cynhyrchu ailddefnydd creadigol o ddarluniau hanesyddol, wedi siapio dulliau seilwaith digidol, ac wedi dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr trwy dagio torfol.

Bob mis, ceir miloedd o ymweliadau â’r archifau digidol hyn o bedwar ban byd, gyda churaduron amgueddfa, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr teledu, cyhoeddwyr, datblygwyr archif delweddau, athrawon, artistiaid a llyfrgellwyr ymhlith y rhai sy'n darganfod trysorau darluniadol anghofiedig.

Meet the team

Key contacts

Selected publications