Helpu gofalwyr dementia i wneud synnwyr o’u profiadau
1 Awst 2017
Mae animeiddiad newydd a phwerus newydd a gynhyrchwyd gan Brifysgol Caerdydd ac a drosleisiwyd gan Syr Tony Robinson, wedi amlygu’r anawsterau cyfathrebu y mae pobl â dementia yn eu hwynebu. Y nod yw helpu gofalwyr i ddeall a chefnogi pobl sydd â’r cyflwr yn well.
Yn seiliedig ar ddegawd o ymchwil gan yr Athro Alison Wray o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, bydd y ffilm yn helpu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ddeall pam mae cyfathrebu â rhywun â dementia yn gallu bod mor heriol.
Yn un o Gymrodorion Anrhydeddus y Brifysgol, mae Syr Tony Robinson - sydd hefyd yn gennad i Gymdeithas Alzheimer ac sydd â phrofiad teuluol o ddementia - yn trosleisio’r ffilm sy’n sôn am y dryswch sy’n gysylltiedig â cholli cof.
Camddealltwriaethau a rhwystredigaethau
Mae’n dangos sut y caiff pobl â dementia drafferth dod o hyd i eiriau a gwneud synnwyr o’r byd, ond hefyd sut maent yn datblygu dulliau ymdopi, ac effaith y rhain ar y negeseuon y maen nhw’n eu mynegi.
Mae hefyd yn edrych ar sut mae pobl eraill yn debygol o ymateb i’w negeseuon. Bydd hy yn helpu gofalwyr i sylweddoli nad oes bai arnyn nhw na’r sawl sydd â dementia am yr amryw gamddealltwriaethau a rhwystredigaethau sy’n gallu digwydd.
Meddai’r Athro Wray: “Gall gofalu am rywun â dementia fod yn heriol ac achosi cryn straen, ac mae angen syniadau ar ofalwyr, y teulu a gweithwyr proffesiynol, i’w helpu i wneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd. Mae’r ffilm yn ystyried cymhlethdodau rhyngweithio â rhywun â dementia. Mae’n edrych ar ddeilliannau cymdeithasol yr heriau gwybyddol sy’n deillio o ddementia, yn ogystal â pha mor wydn yw ein hymddygiad rhyngweithio cymdeithasol sylfaenol yn wyneb y cyflwr...”
Mae’r awgrymiadau i ofalwyr yn y ffilm yn cynnwys bod yn amyneddgar, newid tôn y llais ac edrych am y rhesymau y tu ôl i eiriau neu ymddygiad unigolyn â dementia. Mae hefyd yn dangos sut y gall gofalwyr uniaethu ag ymatebion a helpu pobl â dementia i ddod o hyd i wybodaeth goll.
Dywedodd Syr Tony Robinson: “Mae uniaethu â rhywun sydd â dementia yn gallu bod yn dalcen caled. Ond mae pob amser reswm y tu ôl i ymddygiad y dioddefwr, waeth pa mor ddisynnwyr y mae’n ymddangos, a’i ofynion cynhyrfus...”
Mae’r animeiddiad ar gael yma ac mae’n rhad ac am ddim i bawb. Mae hefyd wedi’i rannu gyda darparwyr gofal ar y cyd a darparwyr hyfforddiant gofal sy’n cydweithio â ni gan gynnwys Wesley Mission Queensland, Six Degrees Salford a Sunrise Senior Living.
Dywedodd Phil McEvoy, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Six Degrees: “Rydym wedi defnyddio’r ffilm yn ein cyrsiau emPoWereD Conversations ar gyfer y rhai sy’n gofalu am bobl sydd â dementia. Mae’n ffilm yn un hwylus dros ben. Mae’r strategaethau’n cael eu hegluro’n glir iawn ac maen nhw’n hawdd i’w defnyddio...”
Cafodd yr animeiddiad, sy’n seiliedig ar brosiect ymchwil yr Athro Wray - The Dynamics of Dementia Communication - ei ddarlunio gan David Hallangen a’i ariannu drwy grant Effaith gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Caiff ail ffilm, fydd hefyd gyda Syr Tony, ei rhyddhau yn yr hydref.