Ewch i’r prif gynnwys

Gwerth y Fictoriaid: rhannu darluniau’r 19fed ganrif.

Defnyddio metadata wedi’i seilio ar ymchwil i ddiddanu cynulleidfa fodern o filiynau o bobl.

Illustration by Eleanor Vere Boyle
Illustration by Eleanor Vere Boyle, appears in "The May Queen" by Lord Alfred Tennyson.

Yn yr oes ddigidol fodern, roedd y darluniadau oedd yn cyd-fynd â thestunau llenyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth.

In the modern digital age, illustrations accompanying nineteenth-century literary texts had been largely forgotten. Nid oedd unrhyw ffordd drefnus i chwilio amdanynt fel delweddau. Rydym wedi ceisio creu cronfa ddata y gallwch chi chwilio ynddi a’i gweld ar-lein am ddim, er mwyn helpu dylunwyr, cyhoeddwyr a darlledwyr i gael mynediad at ddelweddau oes Victoria.

What really left an impression was the way the illustrations from the database can be used to enhance understanding of a difficult text.

Feedback from a 2011 workshop

Cofio'r gorffennol

Datblygodd ein hymchwilwyr Fas Data Darluniau Canol yr Oes Fictoria (DMVI), sy'n defnyddio adnoddau meddalwedd pwrpasol er mwyn harneisio ymchwil llenyddol a chreu 'banc lluniau' wedi'i dagio.

Mae cynnwys y bas data, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn hawdd chwilio amdano, yn golygu ei fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer dylunwyr, cyhoeddwyr, a sefydliadau treftadaeth ledled y byd wrth gyflwyno lluniau o fywyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafodd y bas data ei ddatblygu fel rhan o brosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Yn ystod y broses hon, cafodd gwaith arloesol y tîm ei ddefnyddio i ychwanegu 'mark ups' gwerthfawr i'r delweddau, megis lleoliad daearyddol, cyd-destun hanesyddol a'r perthynas rhwng y cymeriadau yn y delweddau.

Pwysigrwydd darluniau

Disgrifiwyd darluniau gan Walter Crane fel 'chwyddwydr' y genedl. Doedd Alice, a grewyd gan Lewis Carroll, ddim yn gweld pwrpas darllen llyfr heb ddarluniau. Roedd darluniau i'w gweld ym mhonb man yn yr oes Fictoria.

Cyrraedd cynulleidfa fodern

Mae'r Bas Data Darluniau Canol yr Oes Fictoria yn arwyddocaol oherwydd ei capasiti i ddangos delweddau diwylliannol a chymdeithasol o'r gorffennol, heb golli'r wybodaeth am eu tarddiad a'u hystyr gwreiddiol.

Caiff ddelweddau'r bas data eu defnyddio ledled y byd, yn cyrraedd cynulleidfaoedd o filiynau o bobl drwy ddarllediadau teledu.

Cafodd ddelweddau o'r bas data eu defnyddio mewn rhaglen ddogfen am William a Catherine Booth gan Radiant Films yn 2009, rhaglen The One Show y BBC, ar ITV ac S4C, ac mewn cyhoeddiadau print yn cynnwys llyfrau a chylchgronau fel the New York Times Book Review.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Julia Thomas

Yr Athro Julia Thomas

Professor

Email
thomasj1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6491