Ewch i’r prif gynnwys

Dathliad dwbl i ymchwilydd i ddementia

24 Awst 2021

Ei llyfr diweddaraf yn cynnig atebion ymarferol bob dydd i oresgyn anawsterau cyfathrebu

Mae gan yr Athro Alison Wray yng Nghanolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth reswm dros ddathlu ddwywaith y mis hwn.

Wrth i'w llyfr diweddaraf, Why Dementia Makes Communication Difficult: A Guide to Better Outcomes yn mynd ar werth, mae ei gwaith yn 2020, The Dynamics of Dementia Communication wedi cipio gwobr genedlaethol.

Mae gan tua 850,000 o bobl yn y DU yn unig ryw ffurf ar ddementia, ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu.

Mae The Dynamics of Dementia Communication yn ystyried yr effaith y mae dementia’n ei chael ar gyfathrebu. Mae Wray yn dadlau nad diffygion ieithyddol fel y cyfryw sy'n achosi'r brif broblem ond yn hytrach y ffordd y mae amhariadau ar y gallu i gofio a phrosesu’n tanseilio gallu unigolyn i ddilyn cyd-destun sgyrsiau.

'Mae'r anawsterau hyn yn golygu bod unigolyn â dementia’n debygol o gamfarnu beth i'w ddweud, pryd a sut,' meddai Wray.

Y llyfr, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, oedd un o bum llyfr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr llyfrau flynyddol Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain.

Roedd gan adolygwyr y wobr nodedig ganmoliaeth uchel am y gyfrol:

'Mae hon yn gyfrol drawiadol sy'n llunio fframwaith ymbarél eang iawn ar gyfer deall heriau cyfathrebu â phobl â dementia, maes o bwysigrwydd cynyddol yn ein cymdeithas. Mae'r llyfr yn cyflwyno rhai cwestiynau mawr a beiddgar iawn ynglŷn â'r ffordd orau o gyfathrebu â phobl sy'n byw gyda dementia o'r cychwyn cyntaf, ac wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, mae'r cwestiynau hyn yn cael eu hateb mewn ffordd fanwl a thrylwyr.'

Mae Why Dementia Makes Communication Difficult: A Guide to Better Outcomes, a gyhoeddwyd gan Jessica Kingsley Publishers, ar gael i’w brynu nawr.

Mae’r Athro Alison Wray wedi treulio degawd yn astudio effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia a’r effaith y mae’r cyflwr yn mynd ymlaen i’w chael ar gyfathrebu. Mae ei dealltwriaeth fanwl o achosion methu â chyfathrebu yng nghyd-destun dementia’n cael ei defnyddio i ddatblygu hyfforddiant a chyngor i bobl ledled y byd, fel fideos esboniadol wedi’u hanimeiddio sydd wedi’u canmol yn fawr a’u trosleisio gan y llysgennad dementia, Syr Tony Robinson.

Rhannu’r stori hon