Ewch i’r prif gynnwys

Gwella bywydau pobl sydd â dementia

31 Mawrth 2020

Carer looking after woman

Mae arbenigwr ym maes heriau cyfathrebu a achosir gan ddementia yn defnyddio ei gwaith ymchwil i lywio arferion hyfforddiant i ofalwyr a theuluoedd.

Mae'r Athro Alison Wray o Brifysgol Caerdydd wedi treulio degawd yn astudio effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia a'i effaith barhaus ar gyfathrebu. Mae ei dealltwriaeth fanwl o achosion o fethiannau cyfathrebu yng nghyd-destun dementia yn cael ei defnyddio i lunio hyfforddiant a chyngor ar gyfer pobl ledled y byd.

Mae gan tua 850,000 o bobl yn y DU ryw ffurf ar ddementia, ac mae'r ffigur hwn yn codi.

Mae gwaith yr Athro Wray yn sail i'r llyfr newydd, The Dynamics of Dementia Communication, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Mae'n addysgu yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol a dywedodd: "Mae dementia'n gyflwr cymhleth iawn sy'n effeithio ar bob agwedd ar brofiad person, â goblygiadau sylweddol ar gyfer aelodau'r teulu, y gweithwyr proffesiynol a'r gymdeithas ehangach. Mae perthnasau'n aml yn cael eu herio'n sylweddol gan ddementia, a gall fod yn anodd eu cadw'n gadarnhaol.

Mae ein hawydd i gyfathrebu ac ymgysylltu wrth wraidd llawer o'r problemau hyn. Pan ddaw hyn yn anodd, mae pobl fel arfer yn teimlo'n bryderus ac yn rhwystredig. Mae’n hawdd i’r berthynas ddirywio’n gyflym iawn. Gall fod yn anodd cofio mai'r clefyd sy'n gyfrifol am y problemau hyn mewn gwirionedd.

Yr Athro Alison Wray Professor (Research)

Drwy ffilmiau'r Athro Wray sydd wedi'u hamineiddio gyda Syr Tony Robinson yn trosleisio, mabwysiadwyd ei syniadau gan hyfforddwyr gofalwyr yn UDA, Awstralia a Seland Newydd yn ogystal â'r DU. Un berthynas sy'n arbennig o gynhyrchiol yw'r berthynas â Menter Gymdeithasol Six Degrees, sy'n cynnal Empowered Conversations, cwrs hyfforddiant chwe wythnos rhad ac am ddim sy’n rhoi cyngor ymarferol i ofalwyr er mwyn eu helpu i ymdopi â realiti byw gyda dementia.

Dywedodd Dr Phil McEoy o Six Degrees: “Rydym yn gweld bod y teimladau mae pobl â dementia yn eu profi yno o hyd, hyd yn oed pan fyddant yn profi dirywiad gwybyddol difrifol sy'n effeithio ar eu gallu i gyfathrebu.  Mae llyfr a gwaith ymchwil Alison o werth ymarferol aruthrol, mae'n dangos sut mae'n bosibl aros mewn cysylltiad, cynnal perthnasau a deall perthnasau sy'n newid, ac ategu ansawdd bywyd y person sy'n byw gyda dementia.  Rydym wedi cynnwys gwaith Alison yn y gwaith o gyflwyno 43 cwrs i dros 600 o ofalwyr teuluol a phroffesiynol."

Dywedodd un gofalwr sydd wedi cael yr hyfforddiant: “O ystyried pob cwrs rwyf wedi'i gyflawni, y cwrs hwnnw (Empowered Conversations) gafodd yr effaith fwyaf nodedig, gan fod y realiti, mae'n debyg, fod cyfathrebu, sgwrsio, neu sut bynnag yr hoffwch ei ddisgrifio, mor allweddol."

Dywedodd gofalwr arall: “Rwy'n treulio llawer mwy o amser gyda fy mam, efallai dim ond yn eistedd yn dawel yn mwytho ei chefn neu rywbeth fel hynny. Rwy'n credu mai'r rheswm am hynny yw ei bod wedi dirywio....  Os ydw i'n ymweld â hi ac nid yw'n mynd yn dda, dyw mam ddim yn siarad ryw lawer, fydda i siŵr o fod ddim yn teimlo'n wael am fy hun. Roeddwn i’n arfer cerdded i ffwrdd yn meddwl fy mod i wedi delio â hynny'n wael iawn.”

Mae llyfr yr Athro Wray, sydd allan ar 26 Mawrth, yn defnyddio safbwyntiau damcaniaethol newydd i esbonio sut mae effaith dementia ar yr ymennydd nid yn unig yn arwain at y profiadau gwybyddol a brofir fel arfer ond y profiadau cymdeithasol ac emosiynol hefyd.

Dywedodd yr Athro Wray: “Mae gwaith ymchwil cryf yn allweddol er mwyn helpu pobl i fyw gydag effeithiau'r cyflwr ofnadwy hwn. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau â'r gwaith pwysig hwn fel bod gan y rhai hynny sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr proffesiynol, yr adnoddau cywir i ddelio â'r cyflwr."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.