Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn Ysgol amlddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Saesneg Iaith ac Ieithyddiaeth ac Athroniaeth. Rydym yn gwerthfawrogi manyldeb beirniadol, meddwl yn greadigol a chwilfrydedd deallusol.

Rydym yn gymuned amrywiol sy’n cynnwys dros fil o fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a doethuriaeth, dros drigain o staff academaidd a thîm profiadol o gydweithwyr y gwasanaethau proffesiynol. Mae pob un ohonynt yn allweddol i'n llwyddiant fel Ysgol eangfrydig ac sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol. Rydym wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd cefnogol ar gyfer gweithio ac astudio, sydd wedi'i gynnal gan egwyddorion cysylltedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a'i ysbrydoli gan werthoedd y dyniaethau.

Mae ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r cyfle i ni archwilio - ac ymyrryd mewn - dadleuon cyfoes am lenyddiaeth, iaith, hunaniaeth ddiwylliannol a’r hyn sydd ynghlwm wrth fod yn fod dynol.

Ein nod yw sicrhau arweinyddiaeth ryngwladol ar ymchwil drawsddisgyblaethol sy'n cyfuno beirniadaeth a chreadigrwydd; creu gwaith hynod ddeallusol ac arloesi o ran ein dulliau a’n ffordd o weithredu; a chael effaith ar ein cymunedau ehangach.

Cysylltwch â ni

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth