Cyfrifiadura gweledol
Os yw deallusrwydd artiffisial yn galluogi cyfrifiaduron i feddwl, mae cyfrifiadura gweledol yn eu galluogi i weld, arsylwi a throsglwyddo gwybodaeth i gymwysiadau yn y byd go iawn.
Rydym wedi ein hamgylchynu gan fwy o ddelweddau nag erioed o'r blaen - o gamerâu yn y stryd i'r rhai mewn ffatrïoedd sy'n rheoli ansawdd, i'r delweddau ffonau clyfar sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, ceir delweddu meddygol, cerbydau tywys awtomataidd, systemau taflegrau hunan-dargedu, rhaglenni amaeth, adeiladu, adloniant, dadansoddi chwaraeon ac ati.
Er ei bod yn gymharol syml i gasglu'r data crai - ac mae delweddau'n cael eu dal, eu storio a'u prosesu yn eu biliynau bob blwyddyn - mae'r cam dilynol o ddadansoddi'r delweddau a gwneud synnwyr ohonynt yn llawer mwy heriol oherwydd bod data bywyd go iawn yn tueddu i fod yn swnllyd, yn dameidiog, ac yn gymhleth. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r grŵp ymchwil cyfrifiadura gweledol yn canolbwyntio arno.
Mae ein gwaith ym maes cyfrifiadura gweledol yn archwilio offer dadansoddi gweledol i helpu gwyddonwyr ac ymchwilwyr i brosesu data mawr, aml-ddimensiynol yn well. Mae hyn yn effeithio ar y gwaith sy’n cael ei wneud ym meysydd peirianneg, gwyddorau’r ddaear, gofal iechyd, bioleg, meddygaeth, seicoleg, pensaernïaeth, cerddoriaeth gyfrifiadurol a rheoli cwantwm.
Ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyfrifiadura gweledol sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae ein timau’n gweithio ar draws meysydd golwg cyfrifiadurol a graffeg gyfrifiadurol, cyfrifiadura geometrig a data amlgyfrwng.
Un o themâu pwysig ein gwaith yw ystyried prosesau mewnbynnu, disgrifio a golygu solidau, arwynebau a chromliniau. Caiff y rhain eu cynrychioli mewn modd dadansoddol ar ffurf modelau ‘cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur’, yn ogystal â ffurfiau annibynnol megis rhwyllau a chymylau pwyntiau.
Ymhlith yr agweddau eraill ar ein gwaith mae dadansoddi, defnyddio a chreu data sefydlog megis delweddau, rhwyllau arwyneb a sganiau dyfnder 3D, yn ogystal â data sy’n amrywio gydag amser megis fideos a sganiau 4D o wrthrychau sy’n newid eu ffurf.
Ein grwpiau ymchwil
Arweinydd ymchwil
Rydym yn cynnal amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys labordai pwrpasol ar gyfer realiti estynedig, cyfrifiadura grid a chwmwl, technoleg ffactorau dynol, diogelwch a phreifatrwydd, modelu solet a chyfrifiadura gweledol.