Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura amlgyfrwng

Ein ffocws yw datblygu technolegau amlgyfrwng sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol.

Mae data amlgyfrwng, megis testun, sain, delweddau, animeiddiadau a fideo, wedi dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd.

Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall, creu, dadansoddi a phrosesu cynnwys amlgyfrwng. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau a systemau sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol, ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cynnwys ar-lein.

Mae cyfrifiadura amlgyfrwng hefyd o fudd i ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd, telathrebu, diogelwch ac addysg.

Mae gan y grŵp hanes cryf o gyflawni effaith drwy ymchwil. Mae ein hymchwil yn dod a modelau mathemategol, deallusrwydd artiffisial, technegau dysgu peiriannol, a ffactorau dynol mewn datblygu algorithmau a gwerthuso ynghyd.

Mae ein harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys prosesu delweddau, golwg cyfrifiadurol, realiti estynedig/rhithwir, cerddoriaeth gyfrifiadurol, dadansoddi lleferydd, a delweddu. Mae gennym hanes cryf o gydweithio yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.

Nodau

  • Datblygu algorithmau ar gyfer dadansoddi, prosesu ac asesu data amlgyfrwng.
  • Datblygu systemau sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol.
  • Datblygu technolegau sy'n datrys heriau deallusol, diwydiannol a chymdeithasol.

Ymchwil

Themâu ymchwil

Mae ein hymchwil, yn fras, yn cyd-fynd a’r pynciau canlynol:

Profiadau amlgyfrwng

  • Asesu ansawdd delweddau a fideo.
  • Tracio’r llygad a chreu modelu amlygrwydd.
  • Asesu ansawdd canfyddiadol delweddau / data 3D.

Cynhyrchu a dadansoddi cynnwys amlgyfrwng

  • Cynhyrchu cynnwys ar gyfer delweddau a fideos.
  • Cynhyrchu cynnwys data 3D (cymylau pwyntiau, rhwyllau).
  • Cyfosod pobl/wynebau realistig ac darluniadau.
  • Cerddoriaeth gyfrifiadurol.
  • Dadansoddi lleferydd.

Ymgysylltu â defnyddwyr trwy ddefnyddio cyfryngau gwahanol.

  • Arwyddion emosiynol a chymdeithasol.
  • Dadansoddi teimladau ar gyfer data amlgyfrwng.
  • Technegau realiti rhithwir/realiti estynedig
  • Ffactorau dynol mewn delweddu.

Prosiectau

Cyllid

Enw’r prosiect: Cyfuno’r gallu i greu afatar fideo realistig â llwyfan gwybodaeth gofal iechyd sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial
Wedi'i ariannu gan: Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Enw’r prosiect: Gweld y dyfodol

Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Enw’r prosiect: Ymwybyddiaeth Ansawdd Fideo Amlwg Canfyddiadol trwy Asesiad Ansawdd ar Lefel Golygfa
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif ymchwilydd: Dr Hantao Liu

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Digwyddiadau

Cyflwynir seminarau yn y gyfres seminarau ymchwil cyfrifiadura gweledol.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.