Ewch i’r prif gynnwys

Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data

Yn ein cymdeithas ddigidol, mae awydd a galw cynyddol am ddealltwriaeth ddyfnach o’r symiau enfawr o ddata sy’n cael ei gynhyrchu, yn ogystal â’r atebion posibl yn y byd go iawn y gall deallusrwydd artiffisial eu cynnig.

Mae a wnelo deallusrwydd artiffisial (AI) â sut y gall cyfrifiaduron gyflawni tasgau yr oedd bodau dynol yn unig yn gallu eu cyflawni. Mae dadansoddeg data’n canolbwyntio ar sut i gipio, dadansoddi, modelu a phrosesu symiau mawr o ddata o sawl ffynhonnell wahanol er mwyn i ni allu nodi patrymau a defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu.

Yn ein hadran Ddeallusrwydd Artiffisial a Dadansoddi Data, rydyn ni wedi creu lle i ymchwil sydd wedi’i seilio ar chwilfrydedd.

Rydyn ni’n ystyried atebion posibl i heriau uchelgeisiol, pellgyrhaeddol a fydd, yn y dyfodol, o fudd i ofal iechyd, diogelwch, diwydiannau gwasanaeth a llawer o sectorau eraill.

Nod ein hymchwil yw annog defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial ymhellach, drwy ddatblygu modelau sy'n fwy clir neu egluradwy, a thrwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o gyfyngiadau systemau cyfredol.

Mae ein hymchwil hefyd yn ystyried sut y gall dulliau sy’n seiliedig ar ddata gael eu cyfuno â dulliau sy’n seiliedig ar wybodaeth, i ddatblygu systemau all resymu mewn ffyrdd mwy systematig ac a all fanteisio ar arbenigedd dynol.

Yn ein labordai ymchwil, rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:

  • cynrychioli gwybodaeth a rhesymu (ystyried sut y gall systemau cyfrifiadurol ddeall a defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau cymhleth yn y byd go iawn)
  • prosesu iaith naturiol (deall yn well sut y gallai cyfrifiaduron ddelio ag iaith)
  • dadansoddi data a dysgu peirianyddol (ystyried sut rydym yn cipio gwybodaeth am y byd y gall cyfrifiaduron ei phrosesu, ei deall a’i chymhwyso i broblemau)

Mae gennyn ni ddiddordeb penodol mewn gwaith sy'n cyfuno dau neu fwy o'r meysydd ffocws hyn.

Ein grwpiau ymchwil

Prosesu iaith naturiol

Grŵp rhyngddisgyblaethol ydyn ni, sy'n delio â phob agwedd ar Brosesu Iaith Naturiol, o safbwynt ymchwil a chymhwyso ymchwil.

Dadansoddeg data a dysgu peirianyddol

Rydym yn ymwneud â’r gwaith o ddadansoddi a delweddu data cymhleth, datblygu algorithmau dysgu peirianyddol a thechnegau optimeiddio.

Cynrychioli gwybodaeth a rhesymu

Rydym yn gwella dealltwriaeth o'r sylfeini ar gynrychioli gwybodaeth a'r modd y caiff ei chymhwyso i dechnolegau deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n dod i'r amlwg a'u hintegreiddio.

Pennaeth yr Adran