Ewch i’r prif gynnwys

Golwg cyfrifiadurol

Rydym yn dadansoddi delweddau a data cysylltiedig er mwyn deall eu cynnwys, eu trin, a gwneud penderfyniadau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae delweddau i’w canfod ym mhob man, ac mae’r defnydd ohonynt bellach wedi'u hymgorffori mewn nifer fawr o gymwysiadau a ddefnyddir mewn bywyd bob dydd, gan gynnwys ymchwil wyddonol a gweithgynhyrchu diwydiannol. Mae aelodau o’r grŵp Golwg Cyfrifiadurol yn ymddiddori mewn sawl prosiect ymchwil a phrosiect cymhwysol yn y maes hwn, ac yn weithgar ynddynt.

Mae gennym brofiad helaeth mewn nifer o feysydd golwg cyfrifiadurol, delweddu a phrosesu fideo. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ysgolion Seicoleg, Peirianneg, Deintyddiaeth, Meddygaeth ac Optometreg, ac rydym hefyd wedi cydweithio gyda phartneriaid diwydiannol, megis Renishaw, Airbus, British Aerospace, Undeb Rygbi Cymru, lluoedd heddlu lleol, cynghorau a gwasanaethau iechyd.

Nodau

Yn y dyfodol, ein nod fydd denu mwy o fyfyrwyr PhD o safon a mwy o gyllid gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) a’r byd diwydiant.

Ymchwil

Dyma enghreifftiau o rai o’n prosiectau blaenorol:

  • dysgu peirianyddol a dysgu dwfn gan ddefnyddio delweddau a fideo
  • ail-adeiladu arwynebau’n eglur iawn
  • archaeoleg gyfrifiadurol
  • dadansoddi mannau gan ddefnyddio nodweddu delweddau dimensiwn uchel
  • dadansoddi symudiad dynol a fynegir
  • dadansoddi fideos chwaraeon
  • rhaglenni gwyliadwriaeth fideo
  • modelu ymddygiad torfeydd
  • asesu ansawdd cyfryngau gweledol
  • canfod enghreifftiau o ffugio
  • modelu a rhaglenni sylw gweledol
  • rendro delweddau nad ydynt yn ffoto-realistig
  • modelau delwedd cynhyrchiol
  • Lleoli a Mapio’n Weledol ar y Pryd (SLAM) sy’n adnabod adlewyrchiadau
  • modelu wyneb a ysgogir gan leferydd a syntheseiddio fideo
  • cofrestru delweddau

Dyma enghreifftiau o’n gwaith ymchwil a gafodd eu cymhwyso:

  • rhithffurf weledol at ddibenion cyflwyno gofal iechyd yn rhithiol
  • segmentu sganiau Tomograffeg Cydlyniant Optegol (OCT) 3D o retinâu
  • canfyddiad o ddibynadwyedd o ddadansoddi gwenau
  • pennu effeithiolrwydd llawdriniaethau gan dalu sylw at forffoleg yr wyneb a dynameg amseryddol
  • dadansoddi effeithiau alcohol ar ddynameg torfeydd
  • dad-rolio memrynau bregus yn ddigidol o ddadansoddiad sganiau pelydr-X 3D o lawysgrifau rhisgl bedw

Prosiectau

Cyllid

Enw’r prosiect: Integreiddio’r gallu i greu rhithffurf fideo realistig i lwyfan gwybodaeth gofal iechyd ar sail ddeallusrwydd artiffisial
Ariennir gan: Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Enw’r prosiect: Dull Biobeirianneg at ddibenion dylunio a gosod Cyfarpar Diogelu Anadlol (BE-SAFE RPE)
Ariennir gan: Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
Prif ymchwilwyr ar y cyd: Yr Athro David Marshall a’r Athro Paul Rosin

Enw’r prosiect: Gweld y dyfodol
Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Digwyddiadau

Cyflwynir seminarau gan aelodau ac ymwelwyr yn y gyfres seminarau ymchwil cyfrifiadura gweledol.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.