Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o’n holl arferion a gweithgareddau.
Ein nod yw sicrhau diwylliant cynhwysol a chroesawgar sy’n rhoi cyfle cyfartal i staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Athena SWAN
Dyfarnwyd Gwobr Efydd Athena SWAN i ni ym mis Hydref 2018, ac rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Rydyn ni wedi ymrwymo i ystod o gamau gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn ein Hysgol.
Cais Gwobr Arian Athena Swan yr Ysgol Cyfrifiadureg
Athena Swan Silver Award application
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.