Eisteddfod yr Urdd

Fe wnaethon ni fynychu un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop eleni, a gafodd ei chynnal yn nhref farchnad Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.
Gŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd sy'n dathlu diwylliant a'r Gymraeg drwy gystadlaethau a pherfformiadau.
Roeddem ar y Maes drwy gydol yr wythnos ag amserlen llawn dop o berfformiadau a gweithgareddau rhyngweithiol ac addysgol wedi'u cynllunio i ysbrydoli pobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael mewn addysg uwch.
Dyma flas o'n hwythnos yn yr Eiste. dfod
Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd 2023: Gwrth-hiliaeth
Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd eleni wedi dod gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd drwy gydweithio â'r Urdd i daflu goleuni ar wrth-hiliaeth.
Ers mwy na chanrif, mae pobl ifanc Cymru ar 18 Mai yn flynyddol wedi tynnu sylw byd-eang at themâu sy'n bwysig iddyn nhw wrth rannu neges heddwch i'r byd.
Mae neges gwrth-hiliaeth yr Urdd 2023, a chrëwyd mewn gweithdy yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, yn galw ar bobl o bedwar ban byd i 'annog caredigrwydd, dysgu i dderbyn, ac i alw allan hiliaeth a rhagfarnau.'
Gallwch ddarllen mwy am y neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn ein stori newyddion ddiweddaraf.
Cysylltu
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith yn Eisteddfod yr Urdd neu'r Genedlaethol, anfonwch ebost at Eisteddfod@caerdydd.ac.uk.