Ewch i’r prif gynnwys

Tafwyl

Gwyliau Cymru Tafwyl
Bydd Tafwyl eleni ym Mharc Bute ar 14 ac 15 Mehefin 2025.

Mae Tafwyl yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer gwledd o gerddoriaeth, celfyddydau, llenyddiaeth a digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ŵyl yn cynnig profiad unigryw a throchol i bawb, p'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg brodorol neu ddim ond â diddordeb mewn darganfod harddwch y Gymraeg.

Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal ar 14 a 15 Mehefin 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Menter Caerdydd Tafwyl.

Edrych yn ôl ar 2024

Cafodd Tafwyl ei chynnal y llynedd rhwng 12 a 14 Gorffennaf 2024.

Noddwyd yr ardal farchnad gan Caerdydd Greadigol, sy'n rhan o Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd, a chynhaliwyd ystod eang o sesiynau drwy gydol y penwythnos gan Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Prosiect Pūtahitanga

Ers mis Mai 2023, mae academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag artistiaid o Gymru a Seland Newydd sy'n defnyddio'r Gymraeg a'r ieithoedd Māori yn eu gwaith.

Maen nhw wedi nodi themâu cyffredin yn eu profiadau, yn enwedig o ran sut mae eu defnydd o iaith yn dylanwadu ar eu hunaniaeth a'u cyfleoedd i gydweithio'n lleol ac yn rhyngwladol.

Rhannodd Elen Ifan a Joe O'Connell o'r Brifysgol rhai o ganfyddiadau eu hymchwil yn ystod y penywythnos ym Mhabell Llais, a thrafododd artistiaid y materion sy'n effeithio ar eu crefftwaith a'u gyrfaoedd.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect yma ar gael yn Cerddorion yr iaith Gymraeg a’r iaith Māori dan y llifolau.