Ewch i’r prif gynnwys

Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a gynhelir mewn rhan wahanol o Gymru bob blwyddyn.

Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Wrecsam ar 2-9 Awst 2025.

Yr Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd 2024

Y llynedd, daeth yr Eisteddfod â'i lliw, ei chreadigrwydd a'i hysbryd cymunedol i Rhondda Cynon Taf.

Daeth ein timau at ei gilydd i greu gofod cynnes, croesawgar ar y Maes - calon yr Eisteddfod - lle mae death mwy an 6,300 o ymwelwyr draw i'n pabell i ddysgu mwy am ein hymchwil, sgwrsio gyda staff a myfyrwyr, a mwynhau croeso Cymreig go iawn.

Mae'r ŵyl yn gyfle perffaith i ni ddathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, sbarduno sgyrsiau newydd, a chysylltu â myfyrwyr y dyfodol a'u teuluoedd.

Arddangos ein hymchwil a'n creadigrwydd

Drwy gydol yr wythnos, daethon ni â blas o fywyd prifysgol i'r Maes gyda 12 gweithgaredd ymarferol, trafodaethau panel diddorol, a derbyniadau bywiog yn ein pabell.

Arddangosodd timau o'r tri choleg eu gwaith drwy arddangosiadau gwyddoniaeth, gweithdai creadigol, a thrafodaethau ystyrlon am ddyfodol Cymru.

Fe wnaethon ni hefyd gymryd rhan yn rhaglen ehangach yr ŵyl, gan gyfrannu at sesiynau ym Mhabell y Cymdeithasau.

Profiad byd go iawn i'n myfyrwyr

Un o brif uchafbwyntiau yr ŵyl oedd dychweliad Llais y Maes, ein gwasanaeth newyddion digidol o dan arweinyddiaeth ein myfyrwyr Newyddiaduraeth gyda Gwenfair Griffith.

Yn ei ddegfed flwyddyn, gwelodd y prosiect chwe myfyriwr yn creu cynnwys byw o'r Maes mewn partneriaeth ag ITV Cymru Wales ac S4C - gan ennill profiad ymarferol mewn adrodd straeon, darlledu a bywyd diwylliannol Cymru.

Edrych ymlaen

Rydyn ni eisoes yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam rhwng 2–9 Awst 2025 - a byddwn yn rhannu ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein stondin neu weithgareddau yn yr Eisteddfod, cysylltwch â'n tîm Eisteddfod.